Page 45 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 45

 45
 Mae darpariaeth addas yn y rhanbarth i ateb y galw hwn, ond mae angen tynnu sylw at y bylchau hyn a'r cyfleoedd dilynol i ddysgwyr o bob oedran. Bydd hyn yn cynnwys y rheiny sy'n gadael yr ysgol ond hefyd unigolion hŷn sy'n bwriadu uwchsgilio neu ailsgilio.
Dros gyfnod o ddeuddeg mis rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019, canolrif y cyfnod hysbysebu swydd yn y diwydiant oedd 29 o ddiwrnodau. Mae hyn yn hwy na chanolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer pob swydd a chwmni arall yn y rhanbarth, sy'n arwydd o'r posibilrwydd fod y sector yn wynebu heriau ychwanegol o ran recriwtio gyda chynnydd uchel yn yr hyn a ystyrir yn swyddi gwag ‘anodd eu llenwi’. Bu'r gwaith recriwtio ar ei orau yn Abertawe.48
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
O blith y 51% o'r ymatebwyr sy'n wynebu rhwystrau, dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr mai neilltuo amser staff oedd y rhwystr mwyaf cyffredin iddynt ei wynebu o ran hyfforddiant. Gallai hyn ymwneud yn rhannol â thrafferthion recriwtio a fynegwyd gan rai lle gall diffyg staff priodol waethygu'r heriau o ran colli amser gwaith i hyfforddi wrth fodloni gofynion y diwydiant.
Yn ogystal â hynny, mynegwyd diffyg cyllid ar gyfer hyfforddiant gan lawer o ymatebwyr a dilynwyd hyn gan drafferth dod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant a all ddarparu'r hyfforddiant ar adeg sy'n gyfleus iddynt.
Mewn ymateb i hyn, mae angen tynnu sylw cyflogwyr yn well at gyllid hyfforddiant gan y dywedodd 66% o'r ymatebwyr nad oeddent yn ymwybodol o'r cyllid sydd ar gael i fusnesau i'w helpu yn y maes hwn.
Prentisiaethau
Dywedodd 51% o'r ymatebwyr eu bod yn cyflogi prentisiaid gyda'r mwyafrif ohonynt ar Lefel 2 a 3. Dywedodd y mwyafrif nad ydynt yn gwneud hynny mai'r prif ffactor oedd methiant y fframweithiau i ddiwallu eu hanghenion. Mae hyn yn awgrymu bod angen cydlynu'n agosach â chyflogwyr pan gaiff fframweithiau eu datblygu er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben. Mae ymdeimlad cyffredinol ymhlith aelodau'r grŵp clwstwr fod angen i'r fframweithiau fod yn fwy hyblyg. Yn ogystal â hynny, cafwyd trafodaeth ynghylch datblygu cymhelliant ar gyfer cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. O ystyried lefel y buddsoddi, h.y. mewn amser, arian, adnoddau a hyfforddiant ychwanegol, sydd ei hangen i gyflogi prentis, byddai cynnig cymhorthdal i gyflogwyr i'w groesawu.
Mae'r llwybr galwedigaethol i'r diwydiant yn hollbwysig, felly mae'n bwysig fod prentisiaid yn addas i'r diben ac y cânt eu hyrwyddo'n effeithiol. Mae'r rhanbarth yn gartref i'r cynllun rhannu prentisiaeth mwyaf yng Nghymru, sef Cyfle Building Skills. Hyd yn hyn, mae'r cynllun wedi cynorthwyo 1,000 a mwy o brentisiaid a rennir mewn nifer o fasnachau, ac mae oddeutu 90% o'r prentisiaid hyn wedi sicrhau cyflogaeth amser llawn yn eu dewis fasnach. Mae llwyddiant y cynllun wedi ysbrydoli sectorau eraill i ystyried cynllun rhannu prentisiaeth lle mae cynnydd yn nifer y microfusnesau a busnesau bach yn wynebu heriau o ran recriwtio unigolion sy'n barod am waith. Mae'r Bartneriaeth yn cefnogi'r uchelgais hwn yn llawn.
Brexit
O blith y 99 o ymatebwyr a atebodd y cwestiwn, dywedodd y mwyafrif (49%) mai costau cynyddol oedd y brif her y gallai Brexit ei hachosi ar eu cyfer, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â newidiadau mewn mewnforio ac allforio. Dywedodd aelodau o'r grŵp clwstwr eu bod wedi wynebu costau cynyddol yn sgil y pwysau i storio deunyddiau a chynnal deunyddiau trwy ddosbarthwyr i bob pwrpas. Mae hyn wedi arwain at gostau logisteg sylweddol, sydd wedi gwaethygu yn sgil ansicrwydd gwleidyddol parhaus.
47 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI 48 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector





















































































   43   44   45   46   47