Page 76 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 76

 76
 Cryfderau a Risgiau Rhanbarthol78
   Cryfderau
(diwydiannau sy'n tyfu'n genedlaethol, lle mae gan ein rhanbarth fantais gymharol dros rannau eraill o'r wlad)
Economi ymwelwyr
Creu addysg a gwybodaeth
Mewnbynnau a gwasanaethau amaethyddol
Peirianneg sifil
Technoleg cerbydau ac amddiffyn
Cyfleoedd
(diwydiannau sy'n tyfu'n genedlaethol, lle mae gan ein rhanbarth bresenoldeb iach yn hytrach na mantais gymharol, sydd felly'n cyflwyno cyfle i'r rhanbarth geisio eu tyfu)
Digidol
Logisteg ac e-fasnach Technoleg cynhyrchu
Gwasanaethau proffesiynol Cynhyrchu bwyd a diod
Risgiau
(diwydiannau y mae ein rhanbarth yn mwynhau mantais gymharol dros ardaloedd eraill ynddynt, ond sy'n debygol o ddirywio'n genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod, gan awgrymu y gallent fod mewn perygl)
Metelau sylfaenol Coedwigaeth Diwydiannau cloddiol
               Gellir cymryd nifer o bethau cadarnhaol amlwg o'r rhagolygon hyn, oherwydd mae'r ddarpariaeth yn gryf o fewn llawer o'r meysydd diwydiant hyn. Fodd bynnag, mae cyfleoedd i lywio buddsoddiadau tuag at rai o feysydd mwy penodol, newydd ac unigryw'r diwydiannau hyn. Mae'r rhain wedi'u hystyried yn yr argymhellion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru sy'n ymwneud ag addysg bellach amser llawn a darpariaeth dysgu yn y gwaith.
Er bod y diwydiannau hynny wedi'u hystyried fel 'risgiau', maen nhw'n eithaf unigryw i'r rhanbarth ac mae eu haliniad naturiol i'n hamgylchedd a'n tirweddau yn ffactorau cadarnhaol. Mae'n amlwg fod digonedd o'r rhain o fewn yr ardal, felly rydym mewn sefyllfa unigryw i symud y diwydiannau hyn ymlaen, a'u cryfhau gan ystyried eu presenoldeb llai arwyddocaol mewn ardaloedd eraill.
4.3 Newid Technolegol
Mae newid technolegol yn digwydd yn gyflym, ac mae rhai yn cyfeirio ato yn aml fel y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ni wyddys yn gwmws beth fydd hyn yn ei olygu i Gymru ac, yn fwy penodol, i'r rhanbarth, ond mae'n bosibl gwneud rhai tybiaethau ar sail yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.
‘Mae'r gwaith o ddigideiddio a chyfuno technolegau yn cyflymu datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol; awtomeiddio manwl a gweithgynhyrchu'r genhedlaeth nesaf; ac yn fwy eang ym meysydd trafnidiaeth (cerbydau awtonomaidd), iechyd a chysylltedd (y rhyngrwyd pethau).’79
Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch awtomeiddio yn y blynyddoedd diwethaf a beth allai hyn ei olygu i swyddi yn y dyfodol. Credir mai'r prif sector a fydd yn cael ei effeithio gan awtomeiddio tasgau ailadroddol a rhagweladwy fydd y sector gweithgynhyrchu, a byddwn hefyd yn gweld trawsnewidiadau o fewn y sector gwasanaeth ar ôl hyn. Yn dilyn dadansoddiad o'r sectorau, credir y bydd pobl â chymwysterau is sy'n byw mewn rhanbarthau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesurol.
78 https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2018/04/The-Future-of-Work-in-Wales.pdf 79 https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2018/04/The-Future-of-Work-in-Wales.pdf
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Y Dyfodol










































































   74   75   76   77   78