Page 78 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 78

 78
 Bydd arloesedd o fewn y sector a ffermydd sy'n arallgyfeirio i ddiwallu anghenion y dyfodol yn siŵr o greu heriau o ran sgiliau. Awgryma NFU Cymru fod angen sicrhau bod busnesau ffermio'n cael mynediad i'r ymchwil a datblygiadau diweddaraf a'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd. Mae enghreifftiau o'r themâu allweddol y dylid canolbwyntio arnynt yn cynnwys y canlynol:
• Mesurau lliniaru'r newid yn yr hinsawdd
• Rheoli, diogelu a gwella'r amgylchedd
• Iechyd a lles anifeiliaid
• Rheoli a defnyddio glaswelltir
• Agronomeg cnydau ac iechyd planhigion
• Rheoli pridd a maethynnau
• Cymorth i fusnesau fferm / perfformiad ariannol busnesau fferm
• Mesurau rheoli risg
• Iechyd a diogelwch
• Datblygu marchnadoedd newydd ac ychwanegu gwerth at gynnyrch sylfaenol82
4.5 Teithio a Diwylliant
Mae globaleiddio, datblygiadau technolegol a newidiadau i dueddiadau gwario defnyddwyr wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn teithio a'r ffordd y maen nhw'n cynllunio teithiau. Mae hyn yn debygol o ddwysáu yn y dyfodol, gyda defnyddwyr yn dod yn fwyfwy gwybodus am eu bod wedi gallu cynnal eu gwaith ymchwil eu hunain cyn cysylltu â threfnydd teithio. Credir y bydd angen i drefnwyr teithio amrywio'r hyn y maen nhw'n ei gynnig a chynnig gwyliau mwy pwrpasol, lle gall unigolion gynllunio gwyliau sy'n diwallu eu hanghenion unigol.
Rhagwelir y bydd y maes twristiaeth yn dechrau canolbwyntio mwy ar fathau gwahanol, sy'n cynnwys ffactorau fel treftadaeth, estheteg, diwylliant a llesiant preswylwyr. Bydd hefyd mwy o dwristiaeth bwyd sy'n canolbwyntio ar wahanol ddulliau coginio a straeon cyfoethog, a mwy o eco-dwristiaeth wrth i'r galw amdani gynyddu ymhlith defnyddwyr.
Bydd y newidiadau hyn yn sicr o gael goblygiadau ar sgiliau, gan gynnwys mwy o alw am sgiliau digidol uwch, gan gynnwys defnyddio rhith-wirionedd, rheoli data a dadansoddi data. Credir y bydd sgiliau ym meysydd cyfryngau cymdeithasol, marchnata a diogelu data yn parhau i fod yn bwysig, felly mae'n hanfodol fod cyflogeion yn cael hyfforddiant rheolaidd yn y meysydd hyn er mwyn cadw i'r funud â datblygiadau.83
 82 https://www.nfu-cymru.org.uk/nfu-cymru/documents/domestic-agricultural-policy-cymru-online/ 83 Next Tourism Generation Alliance – Country Interview Report (Ebrill 2019)
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Y Dyfodol

















































































   76   77   78   79   80