Page 80 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 80

 80
 Mae'r adran hon yn ymdrin â phrosiectau uchelgeisiol a mawr y disgwylir y byddant yn dod yn ysgogwyr economaidd arwyddocaol ar gyfer creu swyddi, cyfleoedd sgiliau a heriau ledled rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru.
Cafodd ymgynghoriadau eu cynnal â chynrychiolwyr prosiect perthnasol, a chwblhawyd gwaith ymchwil wrth ddesg i gasglu'r holl wybodaeth a gyflwynir yn yr adran hon. Rhoddwyd cryn sylw i gyfleu pob prosiect mor gywir â phosibl ar adeg ei ysgrifennu, a chredir bod yr wybodaeth hon yn gyfredol. Mae prosiectau'n newid yn rheolaidd, ac mae nifer o'r prosiectau a nodir yn yr adran hon yn debygol o newid yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Nid nod yr adran hon yw cadarnhau unrhyw beth. Yn hytrach, bydd yn arweiniad i helpu i bennu beth ddylai fod yn flaenoriaeth i ni yn y dyfodol o ran mynd i'r afael â bylchau posibl mewn sgiliau, drwy amlygu'r prosiectau uchelgeisiol a ragwelir ledled y rhanbarth.
Rhagwelir y bydd y prosiectau a nodir yn yr adran hon yn cael eu cyflawni yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro) ac yn rhanbarth Canolbarth Cymru (Ceredigion a Phowys).
Cyfeirir hefyd at brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Canolbarth Cymru yn yr adran hon, y credir sy'n ysgogwyr twf economaidd pwysig ledled y rhanbarth.
Dinas Ranbarth Bae Abertawe83
Mae strategaeth Adfywio Economaidd Dinas Ranbarth Bae Abertawe yn cynrychioli fframwaith strategol uchelgeisiol i gefnogi De-orllewin Cymru a'i datblygiad economaidd yn y dyfodol.
Mae'n strategaeth flaengar sy'n mynd ati i siartio dyfodol economaidd gwell ar gyfer y Ddinas Ranbarth a'i dinasyddion. Mae'n cysylltu ac yn cyfleu'r anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth ar lefel y Ddinas Ranbarth, gan gydnabod hefyd y bydd ystyriaeth ehangach o bolisïau ar lefel Cymru, y DU a'r UE yn effeithio'n fawr ar gyfeiriad y Ddinas Ranbarth yn y dyfodol.
Abertawe Ganolog Cam 2 84
Mae Cyngor Abertawe wedi arwain y cam cyntaf o'r prosiect defnydd cymysg hwn a chreu canol dinas newydd ffyniannus ar gyfer Abertawe. Mae'r cyngor bellach yn chwilio am ddatblygwr / partner buddsoddi i arwain datblygiad yr ail gam, lle bydd angen buddsoddiad o oddeutu £70 miliwn i greu cyrchfan newydd, fywiog gyda chymysgedd o ddefnyddiau cyfoes, a chanolfan fasnachol sector cyhoeddus yn sail iddo. Mae'r rhannau dangosol fel a ganlyn:
• 148 o fflatiau
• 20,000 m2 o swyddfeydd yn ganolog
• Sinema 2,000 m2
• 2,800 m2 o fwytai
• 2,000 m2 o unedau masnachu
Mae'r safle eisoes wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol ac mae'n cynrychioli gweledigaeth Cyngor Abertawe i adfywio canol y ddinas a chreu man llewyrchus, gan gyfuno'r mannau cyhoeddus gorau â chanolfan fasnachol, unedau manwerthu â brandiau o safon, fflatiau, ac atyniadau hamdden pwysig newydd. Bydd y datblygiadau hyn yn creu galw am swyddi a sgiliau o fewn y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden.
84 http://www.swanseabaycitydeal.wales/media/1044/gd4610-sbcd-strategy-board_en.pdf 84 https://www.abertawe.gov.uk/cyfleoeddbuddsoddi
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr

















































































   78   79   80   81   82