Page 81 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 81

 81
 Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn86
Mae Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn ar waith yn Sir Gaerfyrddin, sef cynllun £7+ miliwn sydd â'r nod o drawsnewid y gyrchfan yn gyrchfan digwyddiadau 'dydd ac aros' ar bob adeg o'r flwyddyn. Gwnaeth gwaith adeiladu'r prosiect ddechrau ym mis Ionawr 2019, a disgwylir iddo gael ei gwblhau ar ddiwedd 2020. Mae'r prosiect yn cynnwys:
• Yr Amgueddfa Cyflymder, sy'n cael ei hadeiladu'n bwrpasol i gofio am gysylltiad hanesyddol Pentywyn â chyflymder ar dir. Bydd ganddi fannau rhyngweithiol a gofod arddangos ar gyfer ceir rasio a phethau cofiadwy o faes cyflymder ar dir.
• Hostel eco-gydnaws 42 gwely a fydd yn cynnwys bar coffi/bistro.
• Ardal ddigwyddiadau.
• Rhodfa lan môr arddangos.
• Gerddi twyni a maes chwarae antur.
• Ardal chwaraeon traeth.
• Maes parcio cyrchfan uwch.
• Safle dros nos i gartrefi modur.
Gyda phrosiectau newydd fel y rhain yn Sir Gaerfyrddin sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth, bydd mwy byth o angen am sgiliau mewn lletygarwch a thwristiaeth. Mae gweledigaeth o'r fath ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gofyn am bobl busnes dawnus sy'n gallu gwireddu'r weledigaeth, er budd yr economi leol ac i ysgogi mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn y rhanbarth.
Parc Bwyd Sir Benfro87
Mae Cyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid o'r sector preifat yn gweithio ar greu parc bwyd gwerth miloedd o bunnoedd i'r gogledd o Hwlffordd, a fydd yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu a storio bwyd. Y buddion disgwyliedig yw'r cynnig i greu 1,000 o swyddi newydd, mwy o ysfa gystadleuol ymhlith cynhyrchwyr bwyd lleol yn y farchnad fyd-eang, darparu hwb dosbarthu modern gyda seilwaith ynni adnewyddadwy, a chreu canolfan ymchwil ac addysg ymarferol er mwyn sicrhau twf cynaliadwy'r dyfodol am flynyddoedd i ddod.
O ganlyniad i'r prosiect hwn, bydd galw am sgiliau cynhyrchu bwyd a thrafnidiaeth, a bydd angen i'r Bartneriaeth a'i rhanddeiliaid gydweithio'n agos i nodi'r amrediad o sgiliau y bydd eu hangen ac i bennu a yw'r cyrsiau perthnasol a gynigir yn lleol ar lefel briodol.
Ardaloedd Menter88
Yr ardaloedd a'r safleoedd yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau
Mae nifer o ardaloedd a safleoedd strategol wedi'u nodi yn Sir Benfro ar gyfer prosiectau mawr mewn sectorau megis ynni, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r ffiniau ardal arfaethedig ar gyfer datblygiadau mawr fel a ganlyn:
• Wdig
• Dyfrffordd y Ddau Gleddau (ardaloedd a safleoedd)
• Maes Awyr Hwlffordd / Parc Diwydiannol Llwynhelyg
• Trecŵn
Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys safle diwydiannol ym Mhorthladd Fferïau Abergwaun gydag unedau busnes ar gael, safle diogel mawr gydag unedau busnes a chyfleoedd trawsnewid yn Nhrecŵn gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer gorsaf ynni biomas, cyfleusterau gweithdy ar gael yn Aberdaugleddau ar gyfer
86 *Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect*
87 *Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect*
88 https://businesswales.gov.wales/enterprisezones/cy/ardaloedd-menter-yng-nghymru
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr








































































   79   80   81   82   83