Page 84 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 84

 84
 Gobeithir y bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2020. Yn ogystal, mae cyfle gwesty'n cael ei farchnata ar hyn o bryd i ddatblygwyr yn y sector preifat.
Mae arwyddion clir y bydd buddsoddi yn y prosiectau digidol hyn yn creu swyddi o fewn y gofod digidol, ac mae'r Pentref Blychau a'r Ardal Arloesedd yn awgrymu bod angen cydweithio'n agosach â phartneriaid fel Busnes Cymru, Gyrfa Cymru ac eraill. Bydd cydweithio effeithiol yn galluogi cydberthnasau gweithio cryfach i ddatblygu ymhlith busnesau newydd, a bydd y rhain, yn eu tro, yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir iddynt drwy'r prosiect. Gall ymgysylltu â'r busnesau newydd arwain at ddarganfod anghenion sgiliau pellach nas rhagwelwyd.
Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)92
Mae ARCH yn bartneriaeth ranbarthol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae partneriaeth ARCH yn gweithio i wella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl yn Ne-orllewin Cymru.
Mae cynlluniau ar droed i ddatblygu safleoedd Treforys a Singleton Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a byddai cyllid gan y Fargen Ddinesig yn cyflymu'r cynlluniau i'r ddau safle ddod yn gampysau gwyddorau iechyd penigamp.
Mae 55 erw o dir wedi'i gaffael ar bwys yr ysbyty cyfredol yn Nhreforys, ac mae cynlluniau ar y gweill i greu ffordd fynediad newydd o'r M4 i'r safle. Rhagwelir mai yn Nhreforys fydd y trydydd Sefydliad Gwyddorau Bywyd ar gyfer de Cymru, a fydd yn creu amgylchedd arloesi unigryw ar gyfer iechyd a gwyddorau bywyd. Bydd campws iechyd Singleton yn gweld Canolfan Dechnoleg Gofal Iechyd yn cael ei sefydlu gan Brifysgol Abertawe – cydran graidd o'r weledigaeth i gael parc gwyddoniaeth ARCH ar gyfer Singleton. Bydd yr ail gampws iechyd hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth a thechnoleg, gyda'r nod o gyflawni'r canlynol:
• Cynyddu nifer y myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Feddygaeth
• Cefnogi'r gwaith o gynyddu graddfa, ansawdd ac effaith gwaith ymchwil
• Darparu llwyfan ar gyfer cwmnïau, ymchwilwyr a myfyrwyr gwyddorau bywyd
• Sbarduno datblygiad cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau iechyd a gwyddorau bywyd
Mae'r prosiect yn bendant yn ennyn optimistiaeth ar gyfer darpariaeth gofal iechyd well yn y dyfodol os bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu. Fodd bynnag, mae tair her allweddol i'w hwynebu. Mae Brexit ac ansicrwydd o ran rhyddid symudiad yn bryder os caiff y farchnad lafur ei lleihau o ganlyniad i hyn. Yr her arall yw mynd i'r afael â'r bylchau posibl mewn hyfforddiant, os bydd datblygiadau mewn technolegau newydd yn cael eu cyflwyno drwy'r prosiect hwn. Yr her olaf yw'r posibilrwydd y bydd cyflogwyr yn disgwyl gweithlu amlddisgyblaeth yn y dyfodol. Os disgwylir unigolion gyda gwybodaeth fwy cyflawn a chytbwys, gyda sgiliau mewn busnes a meddyginiaeth, er enghraifft, mae'n bosibl y bydd angen addasu cyrsiau er mwyn bodloni'r disgwyliadau newidiol.
Bydd angen i'r Bartneriaeth gyflawni ei rôl fel partner arweiniol y prosiect Ymyriad Sgiliau a Thalent yn ofalus. Mae angen cydweithio cryf rhwng y Bartneriaeth, ARCH a phartneriaid eraill i wneud y canlynol:
• Hyrwyddo opsiynau gyrfa meddygaeth a gofal iechyd yn fwy eang
• Nodi a mynd i'r afael ag unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol
• Cydweithio gyda rhanddeiliaid i lunio llwybrau gyrfa effeithiol
• Cydweithio gyda rhanddeiliaid i wneud cyrsiau cyfredol sy'n ymwneud â meddygaeth a gofal iechyd
yn fwy perthnasol.
 92 https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/ysgol-feddygaeth-prifysgol-abertawe/partneriaid/arch/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr















































































   82   83   84   85   86