Page 86 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 86

 86
 Mae cynllun peilot i helpu i lywio cysyniad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer wrthi'n cael ei ddatblygu eisoes yng Nghastell-nedd.
Wrth ystyried y prosiect hwn, dylid rhoi ystyriaeth i ddatblygu llwybrau gyrfaoedd sy'n addas i'r diwydiant adeiladu ac mae angen hyfforddiant pellach a'r technolegau sy'n lleihau carbon er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn y sefyllfa orau i gael swyddi sy'n mynnu sgiliau penodol mewn adeiladu.
Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau’r Genhedlaeth Nesaf96
Bydd Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe ym Mharc Ynni Baglan yn darparu oddeutu 2,500m2 o ofod swyddfa hyblyg o ansawdd er mwyn hybu cwmnïau cychwynnol a busnesau cynhenid.
Bydd dyluniad y ganolfan yn cynnwys deunyddiau adeiladu i'w gwneud yn ‘adeilad fel gorsaf bŵer’ er mwyn dangos sut y gellir cymhwyso'r cysyniad arloesol hwn i adeilad masnachol.
Y ganolfan fydd pencadlys y Ganolfan Ragoriaeth Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf. Bydd arbenigwyr masnachol a thechnegol yn staffio'r ganolfan a bydd yn darparu adnoddau dadansoddi data o'r radd flaenaf a fydd yn gallu troi syniadau’n ddatrysiadau ac yn wasanaethau masnachol.
Disgwylir i'r ganolfan ragoriaeth hon ddod ag addysg a menter ynghyd i greu swyddi, a fydd yn creu galw am weithlu medrus ac arbenigol sy'n gallu gweithredu busnesau, cynnal ymchwil ac arbrofi cynhyrchion.
Gwyddor Dur
Bydd y prosiect Gwyddor Dur yn creu Canolfan Arloesedd Dur Genedlaethol newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a fydd yn darparu cyfleuster mynediad agored i'r gadwyn cyflenwi dur a metel. Cynhelir amrywiaeth o ymchwil a gweithgareddau arbrofi ac efelychu o'r radd flaenaf yn y ganolfan gyda chwmnïau rhanbarthol a mentrau byd-eang, gan helpu i greu cysylltiadau cryfach rhwng y diwydiant a'r byd academaidd. Gan ddatblygu ar lwyddiant Sefydliad Dur a Metelau Prifysgol Abertawe, bydd y dull hwn o gydweithio mewn clwstwr yn galluogi proses ddidrafferth o gyfnewid gwybodaeth, wrth ganolbwyntio ar ddatrysiadau arloesol a fydd yn diogelu'r sector cynhyrchu dur ledled y Ddinas Ranbarth a'r tu hwnt.
Bydd presenoldeb amlwg y diwydiant dur yn yr ardal yn rhoi mwy o gyfleoedd gwaith i bobl leol sydd â sgiliau trosglwyddadwy ac yn galluogi busnesau dur yn yr ardal i ehangu mewn ffyrdd nad oeddent yn bosibl yn flaenorol. Mae'n bosibl y bydd y capasiti mwy yn y diwydiant hwn yn creu'r angen am fwy o gyfleoedd dysgu yn y gwaith.
Ffatri’r Dyfodol
Bydd Ffatri'r Dyfodol ASTUTE yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ganolfan ragoriaeth a chanddi offer o'r radd flaenaf, gan ddatblygu ar arbenigedd arloesol y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y prosiect yn datblygu, yn arddangos ac yn cyflymu'r defnydd o dechnolegau gweithgynhyrchu clyfar ac aflonyddgar.
Mae'r sector gweithgynhyrchu ledled y byd yn mynd trwy newidiadau sylweddol yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Felly, trwy gydweithio'n agos rhwng y diwydiant a'r byd academaidd, bydd y gwaith datblygedig o fabwysiadu technolegau clyfar, sy'n cynnwys gweithgynhyrchu adiol, awtomeiddio, roboteg a digideiddio diwydiannol, yn ysgogi ysfa gystadleuol, effeithlonrwydd a chynyrchioldeb ar gyfer cwmnïau rhanbarthol ac yn denu cwmnïau newydd i gydleoli.
 96 https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/amdanom-ni/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr



















































































   84   85   86   87   88