Page 88 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 88

 88
 Mae'r fenter hon yn ffordd dda o ddangos y swyddi presennol a'r swyddi a grëir yn y dyfodol o ganlyniad i'r prosiect hwn. Felly, dylid rhoi ystyriaeth er mwyn sicrhau bod llwybrau gyrfaoedd sy'n ymwneud â phynciau STEM mewn addysg bellach ac addysg uwch yn diwallu anghenion sgiliau'r prosiect hwn. Daw effeithiau economaidd ehangach i'r amlwg pan fydd busnesau'n tyfu o ganlyniad i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir trwy Beacon+, yn enwedig gan fod Beacon+ bellach yn gweithio gyda busnesau ledled Cymru.
Helix101
Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r UE yw Prosiect HELIX sy'n gweithredu ledled Cymru. Caiff y prosiect ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth rhwng tair canolfan fwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion ac Ynys Môn.
Mae'r fenter hon yn datblygu ac yn cyflawni gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth academaidd ac ymarferol, gan ganolbwyntio ar arloesedd bwyd, effeithlonrwydd bwyd a strategaeth bwyd, er mwyn gwella cynhyrchiant a lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.
Prif amcan Prosiect HELIX fu cynorthwyo, trwy drosglwyddo gwybodaeth, gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwydydd a diodydd i oresgyn rhwystrau rhag twf trwy ddarparu mynediad hawdd i gymorth ymarferol ac academaidd.102
Yn ôl adroddiad gan IFST a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, cyfrannodd Prosiect HELIX £44 miliwn i'r economi yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, ac yntau wedi cefnogi 92 o fusnesau newydd, cynorthwyo â'r gwaith o ddatblygu 203 o gynhyrchion newydd a chreu 147 o swyddi newydd, a diogelu 869 o swyddi. Mae'r buddsoddiad hwn mewn bwyd a diod eisoes wedi creu swyddi, sy'n tynnu sylw at yr angen dybryd i feithrin a datblygu sgiliau perthnasol a phenodol yn y diwydiant hwn.103
Campws Arloesi a Menter Aberystwyth104
Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber) yn darparu cyfleusterau a all arwain y byd a’r arbenigedd i greu datrysiadau sy’n canolbwyntio ar y farchnad i’r diwydiannau amaeth-dechnegol, bwyd a diod, a biotechnoleg ddiwydiannol.
Ar y campws, bydd sawl nodwedd gydategol, gan gynnwys canolfan dadansoddi pellach, canolfan fiofuro, canolfan bwydydd y dyfodol, biobanc hadau, a chanolfan arloesedd a fydd yn hwyluso prosiectau ymchwil ar y cyd rhwng y brifysgol a'r sector preifat yn y bio-economi. Caiff y campws ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), a Phrifysgol Aberystwyth, a bydd yn ased allweddol i sectorau blaenoriaethol y rhanbarth, sef bwyd a ffermio a gwyddorau bywyd.
Pan fydd y prosiect yn gwbl weithredol, bydd yn creu mwy na 45 o swyddi uchel eu gwerth yn y diwydiant amaeth-dechnegol a meysydd cysylltiedig, gan greu galw am sgiliau gwyddonol lefel uwch.
VetHub1105
Gyda chymorth grant gwerth £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain y gwaith o ddatblygu canolfan ymchwil filfeddygol o'r enw VetHub1. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau buddsoddiad pellach gan y Ganolfan Ragoriaeth Arloesedd mewn Da Byw (CIEL) ar gyfer cyfleuster gwyddorau anifeiliaid i weithio ar y cyd â VetHub1. Mae'r gwaith o adeiladu
101 https://businessnewswales.com/project-helix-innovation-boosts-welsh-food-and-drink-industry/ 103 https://businessnewswales.com/project-helix-innovation-boosts-welsh-food-and-drink-industry/ 104 https://www.aberinnovation.com/
105 https://www.aber.ac.uk/en/ibers/news/news-article/title-223026-cy.html
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr



















































































   86   87   88   89   90