Page 89 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 89

 89
 canolfan VetHub1 ar y gweill ac mae disgwyl iddi fod yn gwbl weithredol erbyn gwanwyn 2020. Bydd y ganolfan hon yn cynnig labordai a swyddfeydd llawn adnoddau sydd uchel eu manylebau er mwyn hybu'r gwaith o warchod iechyd anifeiliaid ac iechyd dynol. Bydd y ganolfan hon yn cynnwys labordy Categori 3 unigryw er mwyn cynnal profion newydd a chynnal gwaith datblygu er mwyn mynd i'r afael ag afiechydon sy'n dod i'r amlwg ymhlith da byw.
Mae adroddiad gan Brifysgolion Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018 yn cyfeirio at y swyddi uchel eu hansawdd a gaiff eu creu yn yr ardal leol o ganlyniad i'r prosiect. Mae hyn yn awgrymu'n gryf fod angen datblygu sgiliau mewn gwyddorau milfeddygol a biodechnoleg. Mantais arall i'r prosiect yw y bydd y màs hanfodol yn cael ei gryfhau yn ardal Tyfu Canolbarth Cymru, o fewn meysydd sectorau blaenoriaethol iechyd anifeiliaid a gwyddorau milfeddygol.106
Yr Hen Goleg107
Mae'r gwaith o drawsnewid yr Hen Goleg yn Aberystwyth, Ceredigion, bellach ar y gweill a disgwylir ei gwblhau yn 2022. Bydd yr Hen Goleg ‘newydd’ yn gartref i brofiad i ymwelwyr a fydd yn dehongli casgliadau treftadaeth ac archifau'r brifysgol trwy arddangosiadau, gweithgareddau a digwyddiadau, celf a cherddoriaeth, a pherfformiadau, ac mae’n gweithredu fel modd o gyfnewid gwybodaeth ac fel canolfan ddysgu ar gyfer y brifysgol, ysgolion, y gymuned ac ymwelwyr.
Bydd y gwaith ailddatblygu arfaethedig yn gweithredu fel catalydd ar gyfer adfywio economaidd, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd a denu 200,000 a mwy o ymwelwyr bob blwyddyn, sy'n awgrymu'r angen yn y dyfodol am sgiliau perthnasol i ddarparu'r gwasanaethau arfaethedig.108
Riversimple108
Mae Riversimple, sydd â'i bencadlys yn Llandrindod, yn datblygu a gweithgynhyrchu cerbydau effeithlonrwydd uchel a bŵerir gan hydrogen. Mae'n bwriadu dod â'r rhain i'r farchnad trwy fodel ‘gwerthu gwasanaeth’. Bydd cwsmeriaid Riversimple yn cymryd y cerbyd am gyfnod o flwyddyn i dair blynedd ac yn talu ffi fisol i dalu eu holl gostau, sef y car, yswiriant, cynnal a chadw, adfer, a hyd yn oed tanwydd. Mae Riversimple wrthi'n arbrofi ei gerbydau a'r gwasanaeth gyda'r cyhoedd yn y Fenni. Mae'r cwmni'n disgwyl dechrau swmp-gynhyrchu o 2022, trwy ei ffatri gyntaf ym Mhowys. Y ffatri hon fydd y glasbrint ar gyfer cyfleusterau gweithgynhyrchu'r dyfodol, a bydd pob un ohonynt yn cynhyrchu hyd at 5,000 o gerbydau ac yn cynnig oddeutu 220 o swyddi.
Bargen Twf Canolbarth Cymru110
Ym mis Tachwedd 2017, nododd adroddiad o'r enw ‘Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru’ gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod y bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru'n gwneud cais am fargen ar gyfer Canolbarth Cymru, fel rhan o ddull rhanbarthol o ddatblygu’r economi.
Datblygwyd gweledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru yn yr adroddiad ‘Blaenoriaethau Economaidd Strategol ar gyfer Canolbarth Cymru’, a fydd yn tanategu uchelgais y rhanbarth o sicrhau bargen dwf. Erbyn 2033, mae’r adroddiad hwn yn nodi y bydd Canolbarth Cymru yn:
‘Rhanbarth mentrus ac unigryw sy'n darparu twf economaidd, sy’n cael ei yrru gan arloesedd, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cefnogi cymunedau llewyrchus a dwyieithog.’111
106 https://www.uniswales.ac.uk/cy/uni-case-study/aberystwyths-new-4-2-million-eu-backed-veterinary-facility- and-centre-of-innovation-excellence-in-livestock-hub/
107 https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/01/title-178691-cy.html
108 https://www.aber.ac.uk/en/oldcollege/future-plans/
109 http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s68161/Adroddiad.pdf
110 http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s68161/Adroddiad.pdf
111 AECOM (2018) Blaenoriaethau Economaidd Strategol ar gyfer Canolbarth Cymru
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr
















































































   87   88   89   90   91