Page 92 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 92

 92
 Mae'r weledigaeth ar gyfer y ddogfen hon ac ar gyfer y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf fel a ganlyn:
‘Creu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr i wella llesiant economaidd De-orllewin a Chanolbarth Cymru.’
Gwnaed y casgliadau ac argymhellion canlynol gan ystyried y weledigaeth hon a byddant yn pennu gweithgaredd y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf. Ceir manylion am y gweithgarwch hwn yn Atodiad 1. Gwnaed yr argymhellion o dan y tri mater mwyaf perthnasol a nodir trwy gydol y cynllun, sef cyflogadwyedd, dewisiadau dysgu a gyrfa, a chyfleoedd a darpariaeth.
Cyflogadwyedd
Mae parodrwydd am waith a chyflogadwyedd cyffredinol yn thema glir sy'n destun pryder ar draws sawl sector. Canfyddir ei fod yn rhwystr sylweddol rhag cyflogi unigolion cymwys sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fusnes a diwydiant penodol. Mae angen gwneud mwy o waith i roi'r sgiliau cyflogadwyedd a meddal a ddymunir i ddysgwyr sydd eu hangen i gael gwaith ystyrlon sydd o fudd i’r cyflogwr a'r gweithiwr/dysgwr.
1. Cynyddu gwaith ymgysylltu ag ysgolion er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r sgiliau y mae cyflogwyr yn ystyried eu bod yn hanfodol, gan sicrhau bod cyflogadwyedd a sgiliau meddal yn cael eu hamlygu fel rhai sydd mor berthnasol â sgiliau technegol neu ymarferol.
2. Gwella gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â materion o ran cyflogadwyedd unigolion, yn enwedig y rheini sy'n profi rhwystrau ychwanegol i ddysgu a chyflogadwyedd.
Dewisiadau Dysgu a Gyrfa
Mae canfyddiadau o'r hyn a ystyrir gan y Bartneriaeth i fod yn ‘sectorau blaenoriaeth’ yn broblem sylweddol o hyd. Mae nifer o sectorau yn adrodd bod hyn yn rhwystr allweddol o ran recriwtio a chadw unigolion. Yn anffodus, mae'r Bartneriaeth yn ystyried bod y sectorau hynny sy'n ddeniadol i ddysgwyr yn orlawn ac mae angen ail-gydbwyso addysg bellach a'r cynnig dysgu yn y gwaith er mwyn sicrhau bod gan y sectorau blaenoriaeth hyn gynnig darpariaeth sy'n ddigonol, amrywiol ac addas. Yn ogystal, ceir diffyg dealltwriaeth am lwybrau dysgu gwahanol, sy'n gwaethygu'r heriau o ran recriwtio a chadw ymhellach.
3. Cefnogi darparwyr i farchnata'r cyrsiau hynny sy'n ‘anodd eu llenwi’ sy'n alinio i feysydd blaenoriaeth drwy rannu gwybodaeth am y farchnad lafur gyda thimau marchnata a phenaethiaid cwricwlwm.
4. Cynyddu pa mor gydradd yw’r parch a roddir i lwybrau dysgu gwahanol, gan ganolbwyntio ymyriadau ar gynyddu’r ddealltwriaeth o brentisiaethau fel llwybr dysgu dichonadwy gyda dysgwyr a dylanwadwyr.
5. Datblygu amrediad o adnoddau sy'n hyrwyddo sectorau lle ceir canfyddiadau gwael yn ddigonol a rhannu'r wybodaeth hon gyda rhanddeiliaid perthnasol.
Cyfleoedd a Darpariaeth
6. Cynorthwyo partneriaid i ddatblygu cwricwlwm sy'n addas at y diben, gan sicrhau y caiff darpariaeth newydd ei hwyluso a’i darparu mewn meysydd lle nad yw'r adnoddau mae eu hangen ar gael ar hyn o bryd.
7. Gweithio'n agosach gyda chyflogwyr i nodi darbodion maint o ran bylchau sgiliau sy'n benodol i sectorau er mwyn datblygu darpariaeth briodol i ddiwallu'r anghenion hyn.
8. Sicrhau bod y llais rhanbarthol yn cael ei gynnwys ym mhob polisi sy'n perthyn i gyflogadwyedd a sgiliau.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Casgliadau ac Argymhellion

















































































   90   91   92   93   94