Page 93 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 93

 Bydd cyfleoedd sylweddol yn cael eu cyflwyno i'r rhanbarth a'i bobl gan y doreth o brosiectau mawr sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos.
9. Parhau i alinio gweithgarwch a darpariaeth i brosiectau mawr a phrosiectau uchelgeisiol ar raddfa fawr.
Gwnaeth nifer o gyflogwyr nodi materion y gallai'r Bartneriaeth a'i phartneriaid fynd i'r afael â nhw.
10.Bydd y Bartneriaeth yn dadansoddi'r wybodaeth uniongyrchol a gasglwyd ymhellach er mwyn deall lle y gellir cefnogi cyflogwyr ymhellach gan y Bartneriaeth neu ei sefydliadau partner.
Amlygwyd problemau gan sawl cyflogwr o ran pa mor addas at y diben oedd nifer o fframweithiau prentisiaeth.
11. Bydd y Bartneriaeth yn hwyluso trafodaethau rhwng partneriaid a chyflogwyr perthnasol er mwyn sicrhau bod sylfaen diwydiant gynrychioliadol yn bwydo i mewn i’r broses o ddatblygu fframweithiau.
93
   Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Casgliadau ac Argymhellion



























































































   91   92   93   94   95