Page 16 - 2025 Spring 01 Cymraeg
P. 16

Beth sydd ar y gweill?









       Hyfforddiant Newid Hinsawdd a
       Llythrennedd Carbon i addysgwyr


      Ydych chi eisiau arfogi’ch hun gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i
      addysgu am newid hinsawdd yn hyderus? Ydych chi’n barod i
      rymuso’ch myfyrwyr i fod yn hyrwyddwyr hinsawdd?


      Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu cwrs hyfforddi

      Llythrennedd Carbon achrededig sydd wedi’i deilwra’n benodol
      ar gyfer addysgwyr ar unrhyw lefel. Bydd y sesiynau’n rhoi’r
      wybodaeth i chi ddeall achosion ac effeithiau newid yn yr
      hinsawdd, yn ogystal â ffyrdd o gymryd camau cadarnhaol.                             Cymorth

      Byddwn yn archwilio’r hyn sy’n digwydd yn lleol ac yn fyd-eang
      i liniaru’r effeithiau a mynd i’r afael â’r achosion ac edrych ar y                  Os oes gennych unrhyw gwestiynau, angen cymorth neu’n
      syniadau gwyddonol cyfredol diweddaraf. Ac yn fwy na hynny, mae                      chwilio am ysbrydoliaeth, bydd eich Swyddog Addysg Lleol yn
      presenoldeb ac ardystio yn rhad ac am ddim.                                          gallu eich helpu.


      Mae’r hyfforddiant yn digwydd dros ddwy sesiwn:                                      Mae manylion cyswllt yma neu e-bostiwch

                                                                                           eco-schools@keepwalestidy.cymru
      19 Chwefror a 15 Mawrth, 1.00-4.00pm
      Neu
      22 Mai a 12 Mehefin, 1.00-4.00pm


      > Cadwch eich lle heddiw
   11   12   13   14   15   16   17   18