Page 20 - Eco-Schools 2025 Summer 02 Cymraeg
P. 20
Yn olaf, hoffai tîm Eco-Sgolion Cymru ddathlu rhai o’u
heiliadau mwyaf nodedig eleni.
Roedden ni wrth ein boddau i gael dros 300 o ysgolion
gwahanol yn ein cyfres o wersi byw. Fe
wnaethon ni archwilio amrywiaeth o bynciau
a chyflwyno sawl ymgyrch fel Gwylio Adar yr
Ysgol (RSPB), Gwanwyn Glân Cymru a Mai Di-
dor Plantlife, ac rydym ni wrth ein boddau i
glywed sut mae ysgolion wedi mynd ymlaen Roedd yr holl gyflawniadau hyn yn bosibl diolch i
i weithredu.
gefnogaeth, brwdfrydedd ac ymrwymiad yr holl
Uchelgais Partneriaeth Addysg Werdd UNESCO yw i 50% o Gydlynwyr Eco a staff ymroddedig yn yr ysgolion
rydym yn gweithio gyda nhw. Hoffem ddweud diolch
ysgolion yn fyd-eang gyflawni achrediad gwyrdd erbyn 2030. yn fawr iawn. Allwn ni ddim aros i weithio gyda chi
Yng Nghymru rydym ni eisoes yn gwneud cynnydd gwych tuag unwaith eto y flwyddyn nesaf!
at y targed byd-eang hwn gyda dros hanner
yr ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cyflawni - Tîm Eco-Sgolion
Baner Werdd Eco-Sgolion. Mewn gwirionedd,
dylai ysgolion Cymru fod yn hynod falch
oherwydd, o blith holl genhedloedd yr Eco-
Sgolion, ni sydd â’r gyfran uchaf o ysgolion
sydd wedi cael Baner Werdd!
Rydym yn falch o rannu bod 73% o ysgolion yng Nghymru wedi
cymryd rhan weithredol mewn menter Eco-Sgolion neu Gadw
Cymru’n Daclus eleni. Mae’r cyfranogiad hwn yn cynnwys
ysgolion a dderbyniodd becynnau trwy ein
prosiectau Mannau Lleol dros Natur, a ymunodd
ag ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, a fynychodd
ein digwyddiadau hyfforddi a dysgwyr, neu a
weithiodd yn galed i gyflawni neu gynnal eu
gwobr Eco-Sgolion.

