Page 5 - Diwrnod Gweithredu
P. 5
1.2
Safbwynt ysgol
Mae cynllunio, dylunio a chyflwyno Diwrnod
Gweithredu yn cysylltu â chyfrifoldebau
trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a
chymhwysedd digidol.
Gellir llywio targedau rhifedd trwy gasglu data bywyd
go iawn. Gellir dadansoddi’r data hwn a’i gyflwyno
mewn ffordd sy’n ei wneud yn berthnasol i gymuned
yr ysgol gyfan.
Gellir amlygu testunau trwy brosiectau celf a’r
celfyddydau perfformio.
Trwy ymchwilio a gwybodaeth, gall y Diwrnod
Gweithredu amlygu materion i helpu pobl i ddeall sut
maent yn effeithio ar yr amgylchedd ac, yn bwysig
iawn, sut y gallant ei wella.
Gellir dwyn canfyddiadau’r Diwrnod Gweithredu
ymlaen i greu mwy o weithredoedd, mwy o effaith a
chryfhau llais disgyblion.
Llywodraeth Cymru – cwricwlwm newydd i ysgolion