Page 2 - The Litter Report Newsletter - Cymraeg
P. 2

Cyflwyniad                                                                          Llythyr gan ein


                                                                                           golygydd gwadd
       Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd a gallwn ni edrych ymlaen
       at ddiwrnodau hirach a thywydd cynhesach, gan obeithio y bydd hyn
       yn ein hysgogi i weithredu, efallai hyd yn oed cynnal ymgyrch glanhau
       blynyddol! Gyda hyn mewn golwg, ffocws y cylchlythyr hwn yw deall                   Gareth Davies
       sbwriel a dysgu sut y gallwn ei leihau gyda’n gilydd.
                                                                                           Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus yng Nghaerdydd

       Mae’n dymor prysur ar gyfer ymgyrchoedd ac mae sawl digwyddiad
       arall wedi’i nodi yn y rhifyn hwn y bydd eich ysgol yn gallu cymryd
       rhan ynddynt. Darllenwch weddill y cylchlythyr i ddod o hyd i
                                                                                         Rwy’n gweld pob dydd pa mor bwerus y gall gweithredu cymunedol fod
       ffeithiau, cyngor call, adnoddau a syniadau i helpu eich ysgol a’ch
                                                                                         wrth fynd i’r afael â sbwriel. O iardiau chwarae mewn ysgolion i barciau
       dysgwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol pob dydd.
                                                                                         lleol a strydoedd, nid yw sbwriel yn effeithio ar sut olwg sydd ar ein
                                                                                         cymuned leol yn unig, mae’n effeithio ar sut rydym yn teimlo am y lleoedd
                                                                                         rydym yn byw ynddynt, yn dysgu ynddynt ac yn treulio amser gyda’n
                                                                                         gilydd ynddynt.
       Cynnwys
                                                                                         Mae gen i’r fraint o weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr ac ysgolion
                                                                                         anhygoel ar draws Caerdydd sy’n poeni’n fawr am eu cymunedau. P’un a
       Sbwriel yng Nghymru: Y ffeithiau a beth allwn ni ei wneud
                                                                                         yw’n ddysgwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel, eco-
       Beth mae'r data yn ei ddangos i ni                                                glybiau’n arwain ymgyrchoedd, neu wirfoddolwyr yn rhoi’r gorau i’w
                                                                                         penwythnosau i lanhau ardaloedd lleol, mae’r ymdrechion hyn yn gwneud
       Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion
                                                                                         gwahaniaeth go iawn a gweladwy. Mae ysgolion yn chwarae rôl hanfodol
       Her Hinsawdd Cymru                                                                wrth lunio’r agweddau hyn, ac rwy’n cael fy ysbrydoli trwy’r amser gan y
                                                                                         creadigrwydd a’r brwdfrydedd mae disgyblion yn dangos ar gyfer yr her hon.
       Cael eich ysbrydoli
                                                                                         Mae’r hyn sy’n wych am weithio gyda’r gymuned er mwyn mynd i’r afael â
       Adnoddau                                                                          sbwriel yw gweld faint o foddhad a budd mae gwirfoddolwyr yn eu cael o
                                                                                         gasglu sbwriel. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn, ac mae’r
       Ymgyrchoedd
                                                                                         ystadegau yn profi hyn: Yn 2025, daeth ysgolion, grwpiau cymunedol,
       Beth sydd ar y gweill?                                                            Pencampwyr Sbwriel, Pyrth Di-Sbwriel a llawer o sefydliadau eraill ynghyd i
                                                                                         waredu 64,512 o fagiau o sbwriel o gymunedau ar draws Cymru, gan
       Cymorth                                                                           gyfrannu 91,957 o oriau gwirfoddol. Fy nghyngor y gwanwyn hwn yw mynd
                                                                                         allan, cymryd rhan yn yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion neu gynllunio eich
                                                                                         digwyddiad codi sbwriel eich hun, ni fyddwch yn ei ddifaru!
   1   2   3   4   5   6   7