Page 17 - Summer 2024 - Two- Welsh
P. 17

Mae Sara Wright o Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman yn esbonio rhai o’r
          buddion maen nhw wedi’u gweld drwy newid o boteli llaeth bach i gwpanau:


        “Un fantais fawr yw bod llai o wastraff plastig yn cael ei greu wrth ddefnyddio
        poteli mwy. Dim ond 1 neu 2 botel sy’n cael eu defnyddio fesul dosbarth yn y
        Cyfnod Sylfaen bob dydd. Yn ychwanegol mae llai o laeth yn cael ei wastraffu
        gan fod y disgyblion yn cael cwpan sy’n hanner llawn yn hytrach na photel o
        laeth yr un. Os yw disgybl angen mwy o laeth mae’n gallu gofyn am ragor.

        Mae amser llaeth yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol i ni yn Ysgol Parcyrhun
        yn y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn lle rydyn ni’n yfed llaeth gyda’n gilydd
        ar ôl amser chwarae. Ym mlynyddoedd 1 a 2 maen nhw’n cael y llaeth
        peth cyntaf yn y bore a ganddyn nhw’r bore i yfed y llaeth yn eu hamser eu
        hun. Rydyn ni wedi sylwi bod hyn yn rhoi annibyniaeth i’r disgyblion yn y
        dosbarthiadau hyn.
        Mae’r newid wedi bod yn bositif iawn i ni yn Ysgol Parcyrhun  - Ewch amdani!”
   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21