Page 18 - 2025 Spring 02 Cymraeg (1)
P. 18

Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion: Gwers Fyw ar Sbwriel




     Dewch i sesiwn rithwir a gyflwynir gan Eco-Sgolion Cymru wrth i ni
     baratoi ar gyfer Yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion.


     Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn annog dysgwyr i archwilio
     pob math o sbwriel. O ble mae’n dod? Pam ei fod yn broblem?
     Beth allwn ni wneud amdano?! Bydd disgyblion yn cael yr holl
     wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan yn yr Ymgyrch                          Hyfforddiant Newid Hinsawdd a Llythrennedd Carbon i addysgwyr
     Fawr i Lanhau Ysgolion eleni. Byddwn hefyd yn rhannu syniadau ac
     arweiniad ar gyfer cyfleoedd dysgu awyr agored ar ôl y gweithdy.
                                                                                         Ydych chi neu staff eich ysgol yn teimlo bod gennych fylchau yn
                                                                                         eich gwybodaeth am nwyon tŷ gwydr a newid hinsawdd? Ydych chi

     12 Mawrth Cyfnod Allweddol 2                                                        am gael  ysbrydoliaeth ar gyfer addysgu am newid yn yr hinsawdd,
     9.30 - 10.15yb Sesiynau Cymraeg a Saesneg                                           ei faterion a’i syniadau i rymuso’ch dysgwyr?


     13 Mawrth  Y Cyfnod Sylfaen                                                         Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu cwrs hyfforddi
     9.30 - 10.00yb Sesiynau Cymraeg a Saesneg                                           Llythrennedd Carbon achrededig sydd wedi’i deilwra’n benodol
                                                                                         ar gyfer addysgwyr ar unrhyw lefel. Bydd y sesiynau’n rhoi’r
                                                                                         wybodaeth i chi ddeall achosion ac effeithiau newid hinsawdd
     I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle i’ch dosbarth ar y sesiwn                yn ogystal â ffyrdd o gymryd camau cadarnhaol. Byddwn yn
     fyw, cymerwch olwg ar ein tudalen digwyddiadau.                                     archwilio’r hyn sy’n digwydd yn lleol yng Nghymru ac yn fyd-eang
                                                                                         i liniaru’r effeithiau a mynd i’r afael â’r achosion yn ogystal â rhoi
                                                                                         sylw i’r syniadau gwyddonol cyfredol diweddaraf. Ac yn ogystal,
                                                                                         mae’r cwrs a’r ardystiad yn rhad ac am ddim.



                                                                                         Mae’r hyfforddiant yn ymestyn dros ddwy sesiwn:
                                                                                         22 Mai a 12 Mehefin, 1.00-4.00pm


                                                                                         Darganfyddwch fwy ac archebwch eich lle heddiw trwy ein tudalen
                                                                                         digwyddiadau.
   13   14   15   16   17   18   19   20