Page 20 - Brecon Beacons National Park Visitor Guide 2019
P. 20

 MWY O WYBODAETH
WWW.BRECONBEACONS.ORG/WALKING
FOR MORE INFO
MYND AM DRO
WALK THIS WAY
Mae ein Parc Cenedlaethol yn enwog am ei fannau gwyrdd agored sy’n cynnwys milltiroedd ar filltiroedd o leoedd hyfryd i fynd am dro. Mae rhywbeth at ddant pawb; gallwch gerdded yn hamddenol o gwmpas llyn, dilyn llwybr coedwig neu fynd i gerdded yn y bryniau.
Awgrymiadau am deithiau cerdded gan y Warden Chwarel Herbert
Ar yr A4069, hanner ffordd rhwng Brynaman a Llangadog
Yn clwydo’n uchel ar ochr mynydd yng Ngorllewin y Parc, bu Chwarel Hebert unwaith yn ferw o weithgaredd diwydiannol. Mae adfeilion yr odynau calch a’r chwareli bellach yn safle arallfydol gyda thirwedd o glogwyni creigiog, bryniau bach glaswelltog a wynebau’r chwarel.
Dewiswyd gan Warden y Parc Cenedlaethol
EIN 5 HOFF DAITH GERDDED
Bryngaer Oes Haearn Pen y Crug
Concrwch y fryngaer drawiadol hon sydd ger Aberhonddu.
Parc Gwledig Craig­y­Nos
Waeth beth fo’r tymor mae digon ar gael yn ein parc o fewn parc. Mae croeso i gŵn, ar dennyn wrth gwrs.
Llyn Syfaddan
Dilynwch lwybr o amgylch y llyn a chwiliwch am adar o’r guddfan.
Crughywel i Fynydd Crug Hywel
Taith gerdded egnïol o dref wledig i fryngaer Oes Haearn.
Camlas Mynwy a Brycheiniog
Taith gerdded egnïol o dref wledig i fryngaer Oes Haearn. Llwybr Halio i’r teulu cyfan, â digon o fannau picnic ar hyd y ffordd.
 













































































   18   19   20   21   22