Page 54 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 54

 54
 Recriwtio
Nid yw mwyafrif (71%) yr ymatebwyr yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Dywedodd y rheiny sy'n cael trafferth mai peirianwyr, godrwyr, gweithredwyr y llinell gynhyrchu, pobwyr arbenigol, cigyddion, tynwyr esgyrn a bragwyr yw'r rheiny sydd eu hangen fwyaf.
Cyhoeddwyd 1,809 o hysbysebion swyddi unigryw rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019. Canolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer y rolau hyn oedd 22 o ddiwrnodau, sy'n is na chanolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer yr holl swyddi a chwmnïau eraill yn y rhanbarth (26 o ddiwrnodau), sy'n awgrymu ei bod yn bosibl nad yw cwmnïau'n cael cymaint o drafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol.57
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Dywedodd 74% o'r ymatebwyr nad ydynt yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Dywedodd y 26% o ymatebwyr eraill mai un o'r heriau mwyaf amlwg yw'r ffaith na allant neilltuo amser staff, a dilynwyd hyn gan ddiffyg cyllid ar gyfer yr hyfforddiant a methu â neilltuo amser i drefnu'r hyfforddiant. Dyma duedd sydd i'w gweld ar draws busnesau o bob maint.
Dywedodd mwyafrif y busnesau a holwyd nad ydynt yn ymwybodol o'r cyfleoedd am gyllid sydd ar gael iddynt er mwyn eu helpu â hyfforddiant. Mae hyn yn awgrymu bod angen gwaith pellach i sicrhau y caiff cyflogwyr eu cyfeirio at y rhanddeiliaid perthnasol er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Problem bwysig i'w nodi yw diffyg bodolaeth darpariaeth addysg bellach sy'n ymwneud â'r sector gweithgynhyrchu bwydydd. Yn amlwg, mae hyn yn creu rhwystr sylweddol rhag darparu hyfforddiant i'r unigolion hynny sy'n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwydydd lle’r llwybr dysgu seiliedig ar waith yw'r unig lwybr sydd ar gael iddynt. Mae angen i hyn newid ac felly, ar gais y cyflogwyr yn y rhanbarth, awgrymir gweld y ddarpariaeth hon yn cael ei datblygu a'i chyflwyno i'r arlwy addysg bellach.
Prentisiaethau
Dywedodd 83% o'r ymatebwyr nad ydynt yn cyflogi prentisiaid. Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd (40%) dros hyn yw gan nad yw fframweithiau'n diwallu anghenion y busnes. Dilynwyd hyn gan gyfyngiadau ariannol (29%).
Yn ôl ystadegau diweddar, dim ond 1% o'r prentisiaethau a gynigir yng Nghymru sydd yn y maes amaethyddiaeth, er bod cyflogaeth y sector yn cyfateb i 4% o gyfanswm poblogaeth Cymru. Mae angen cynyddu'r niferoedd yn y maes hwn a sicrhau y caiff dysgwyr lwybrau priodol i'r diwydiant, o ystyried natur newidiol amaethyddiaeth o ran sgiliau ac arloesedd. Bydd hyn hefyd yn lleddfu'r broblem o weithlu sy'n heneiddio.
Brexit
Dywedodd 109 o'r ymatebwyr fod Brexit yn bryder iddynt. Costau cynyddol yw'r prif bryder i 66% o'r busnesau hyn. Dilynwyd hyn gan gyllid (58%) a thrafferthion allforio/mewnforio (50%).
Dywedodd cwmnïau mwy o faint eu bod yn ofni colli staff a cholli sgiliau.
Yn ôl tystiolaeth eilaidd a adolygwyd gan y Bartneriaeth, gellid bod goblygiadau ehangach i'r sector, gan gynnwys y canlynol:
 57 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


















































































   52   53   54   55   56