Page 53 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 53

 Pan ofynnwyd i ddiffinio'r heriau hyn o ran sgiliau, dywedodd y mwyafrif fod angen arnynt sgiliau neu wybodaeth arbenigol i gyflawni'r rôl (50%), sgiliau cyfathrebu (29%) a sgiliau TG sylfaenol / llythrennedd cyfrifiadurol (26%).
Wrth edrych yn fanylach ar y data, gwelir bod 83% o'r busnesau mawr a holwyd yn wynebu heriau o ran sgiliau. Mae mwyafrif yr heriau hyn o ran sgiliau ymysg gweithredwyr prosesau, peirianwaith a pheiriannau ac fe'u diffinnir fel sgiliau neu wybodaeth arbenigol angenrheidiol i gyflawni'r rôl, sgiliau datrys problemau, a sgiliau TG sylfaenol / llythrennedd cyfrifiadurol.
Mae dadansoddiad56 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
53
   Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Gwerthiannau Manwerthu Gwasanaeth cwsmeriaid Rheolaeth
Gwerthu nwyddau Cyfathrebu
Gwerthiannau manwerthu
Hyfforddiant
Gyrru
Technoleg gwybodaeth
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Gwrando Learning Dysgu
Arwain Arweinyddiaeth Moeseg Cadernid Glendid
                     Nododd trafodaeth gan y grŵp clwstwr fod diffyg sgiliau digidol ymysg llawer o'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gweithgynhyrchu bwydydd ac amaethyddol. Dyma faes y mae angen ei ystyried o ran darpariaeth er mwyn sicrhau y datblygir y sgiliau sydd eu hangen ar hyn o bryd ac y bydd eu hangen yn y dyfodol ymhlith dysgwyr, o ganlyniad i arallgyfeirio ac arloesedd.
Yn ogystal â hynny, yn ôl tystiolaeth anecdotaidd gan y grŵp clwstwr, mae angen gwell pwyslais ar elfennau ariannol amaethyddiaeth yn y ddarpariaeth. Awgrymir datblygu modiwlau cadw cofnodion fel rhan o gyrsiau amaethyddiaeth sydd eisoes yn bodoli. Byddai hyn yn enwedig yn cynorthwyo ffermwyr, sy'n tueddu i fod yn berchenogion/rheolwyr ac sydd â chyfrifoldeb dros ymdrin â holl elfennau gweithredu eu fferm yn ddyddiol.
56 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector

















































































   51   52   53   54   55