Page 55 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 55

 55
 • Gallai newidiadau mewn amodau masnachu roi safle cystadleuol presennol amaethyddiaeth Cymru dan anfantais, yn enwedig o ran defaid a chig eidion.
• Pe na allai ffermydd addasu i'r lleihad yn lefel a chwmpas y cyllid cyhoeddus y mae'r sector wedi bod yn gyfarwydd ag ef dros y blynyddoedd diweddar, gallai hyn fod yn niweidio i'r diwydiant.
• Gellid gweld gwahaniaethau yn y modd y mae proseswyr coedwigaeth a bwydydd allweddol yn buddsoddi yng Nghymru ac mewn cynhyrchion o Gymru, a gallai hyn gael effaith negyddol.
• Gallai'r newidiadau yn y broses o allforio a mewnforio cynhyrchion a chynhwysion bwyd a ddefnyddir gan y diwydiant gweithgynhyrchu bwydydd effeithio ar weithrediad dyddiol eu busnes.
Gallai argaeledd llafur fod yn broblem sylweddol, yn enwedig ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwydydd, lle caiff nifer fawr o weithwyr mudol eu cyflogi yn y sector. Yn amlwg, gallai hyn arwain at oblygiadau sylweddol o ran sgiliau i'r rhanbarth.58
Y Gymraeg
Nododd tri busnes fod y Gymraeg yn her o ran sgiliau. Teimlodd y grŵp clwstwr fod y Gymraeg yn bwysig o ran diwylliant a gall fod yn arbennig o hanfodol i rai cwmnïau sydd wedi datblygu brand ar ‘Gymreictod’ eu cynnyrch neu wasanaeth.
Er ei bod yn bwysig mewn rhai achosion i hunaniaeth rhai cwmnïau, teimlodd y grŵp nad yw'n hanfodol i weithrediad beunyddiol eu busnes.
Cytunwyd nad oes galw am ddarpariaeth ddwyieithog neu uniaith Gymraeg.
Carbon Isel
Mae'r grŵp clwstwr wedi ystyried rôl y sector yn erbyn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019. Maent yn cydnabod bod gan y sector coedwigaeth rôl sylweddol o ran y posibilrwydd o blannu coed ychwanegol er mwyn atafaelu carbon. Bydd cyfeiriad y grŵp clwstwr yn esblygu gydag ystyriaeth ddyledus i weithwyr ychwanegol y gellid bod eu hangen ar gyfer y gwaith hwn, a'r hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen.
Yn debyg i hynny, nid oes amheuaeth na fydd y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i gwblhau a dehongli asesiadau o effaith nwyon tŷ gwydr yn esblygu yn ystod tair blynedd y cynllun hwn. Bydd y clwstwr yn parhau i ystyried sut orau i weithredu a chynghori ar y gofynion hyn.
Blaenoriaeth
Mae angen sicrhau bod y sector yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol er mwyn chwalu unrhyw gamsyniadau sy’n bodoli i’r rheini mewn ysgolion cynradd neu’n uwch. Bydd hyn yn lleddfu rhywfaint o'r heriau o ran recriwtio y mae'r sector yn eu hwynebu. Yn ogystal â hynny, mae angen datblygu'r ddarpariaeth addysg bellach yn y sector gweithgynhyrchu bwydydd gan nad oes unrhyw arlwy o gwbl ar hyn o bryd.
58https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2018/04/The-Implications-of-Brexit-for-Agriculture-Rural-Areas-and-Land- Use-in-Wales-1.pdf
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


















































































   53   54   55   56   57