Page 61 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 61

 61
 Mae'r cymwysterau a'r cyrsiau a gynigir i bobl sydd am ddatblygu eu gyrfa mewn gofal wedi bod yn destun adolygiad gan Cymwysterau Cymru. Croesawyd y canfyddiadau gan Gofal Cymdeithasol Cymru a'r sector ehangach gan eu bod yn tynnu sylw at heriau allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw, sef:
• effeithiolrwydd y modelau asesu presennol o ran pennu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr;
• cyfredoldeb rhai cymwysterau, yn enwedig y cymwysterau a gymerir gan ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed;
• y raddfa yr oedd cymwysterau'n paratoi dysgwyr i barhau i addysg uwch;
• y sylw a roddwyd i rai agweddau allweddol ar ddysgu ar gyfer gwahanol feysydd gwaith, er enghraifft o ran
gofal dementia, gofal cartref a gwaith chwarae yng nghyd-destun gofal plant; ac y raddfa yr oedd cymwysterau'n paratoi dysgwyr yn effeithiol i weithio mewn gwlad ddwyieithog63
Heriau o ran Sgiliau
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr nad ydynt yn wynebu heriau o ran sgiliau, ond dywedodd 47% eu bod yn wynebu'r heriau hynny mewn swyddi gofal, hamdden a gwasanaeth eraill (73%), mewn swyddi proffesiynol (20%), ac ymysg rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (10%).
Y bylchau mwyaf cyffredin a nodwyd o ran sgiliau oedd:
• Sgiliau neu wybodaeth arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r rôl% (62%)
• Sgiliau Cymraeg lafar (39%)
• Ysgrifennu cyfarwyddiadau, canllawiau, llawlyfrau neu adroddiadau (28%)
• Sgiliau iaith ysgrifenedig (28%)
• Sgiliau cyfathrebu (28%)
Mae dadansoddiad64 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
   Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Nyrsio Rheolaeth Gofal iechyd Gwaith clinigol
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Iechyd meddwl Arweinyddiaeth Gwrando Llythrennedd Lleferydd Moeseg
            63 https://qualificationswales.org/media/1904/hsc-report-2016-e.pdf
64 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector












































































   59   60   61   62   63