Page 62 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 62

 62
 Recriwtio
Dywedodd mwyafrif (57%) yr ymatebwyr eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Mae'r rolau hyn yn amrywiol, ond mae'r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys nyrsys, gweithwyr cymorth, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr a rheolwyr.
Cyhoeddwyd 10,832 o hysbysebion swyddi unigryw rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019. Canolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer y swyddi hyn oedd 26 o ddiwrnodau, sy'n gyson â chanolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer yr holl swyddi a chwmnïau eraill yn y rhanbarth. Er bod hyn yn creu darlun gweddol gadarnhaol o ran recriwtio, nid yw'n cyfleu'r trosiant uchel o ran staff a welir yn y diwydiant.
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Dywedodd 59% o'r ymatebwyr eu bod yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant, gan nodi neilltuo amser staff (64%), diffyg cyllid ar gyfer yr hyfforddiant (51%) ac anodd neilltuo amser i drefnu'r hyfforddiant (42%) fel rhwystrau allweddol.
Nid yw mwyafrif (57%) o'r ymatebwyr yn ymwybodol o'r rhaglenni cyllid sydd ar gael er mwyn eu cynorthwyo â hyfforddiant.
Prentisiaethau
Nid yw mwyafrif y busnesau (74%) yn cyflogi prentisiaid. Y rheswm dros hyn yw ‘fframweithiau prentisiaethau nad ydynt yn diwallu anghenion eu busnes’ a'u bod yn ‘ansicr ynglŷn â'r broses o ran cynnig prentisiaeth’. Ymhlith y rhesymau eraill mae'r ffaith fod rhai darparwyr gofal yn betrus iawn o ran cynnig prentisiaethau gan fod yn well ganddynt gyflogi staff sydd eisoes yn brofiadol.
Brexit
Mae Brexit yn bryder i lawer sy'n gweithredu yn y sector. Cyllid, colli staff a chostau cynyddol oedd y pryderon mwyaf cyffredin.
Blaenoriaeth
Mae angen cymorth ar y sector ar gyfer hyfforddiant staff er mwyn sicrhau cymhwysedd i gofrestru. Byddai ymgyrch wedi’i thargedu i hyfforddi’r gweithwyr trwy raglen wedi’i hariannu’n rhoi hwb i’r sector ac yn diogelu ei ddyfodol er mwyn iddo ateb y galw am ofal a chymorth yn y cartref.
3.7 Twristiaeth, Hamdden a Manwerthu
Twristiaeth a Hamdden
Mae'r sector twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, o ran economeg ac o ran creu ymdeimlad o le a hyrwyddo hunaniaeth a diwylliant Cymru i weddill y byd. At hynny, mae cysylltiadau cadwyni cyflenwi sydd wedi'u halinio i'r sector yn dod â buddion i lawer o'r busnesau bach a microfusnesau sy'n dominyddu ein heconomi.
Roedd gwariant gan ymwelwyr a oedd yn aros yng Nghymru yn 2015 dros £2.385 biliwn, sef twf o oddeutu 23% ers 2012. Mae'r cynnydd hwn mewn gwariant wedi arwain at gynnydd mewn lefel cyflogaeth a'r gwerth ychwanegol gros hefyd. I ymhelaethu ar hyn:
‘Mae'r sector twristiaeth wedi hybu twf uwch a chyflymach mewn cyflogaeth a gwerth ychwanegol gros nag ar gyfer yr economi gyfan yng Nghymru. Twristiaeth yw'r trydydd sector mwyaf o ran cyflogaeth uniongyrchol ac y mae wedi gweld yr ail dwf uchaf mewn lefelau cyflogaeth o blith holl sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ers 2006.’
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector
















































































   60   61   62   63   64