Page 67 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 67

 67
 Heriau
Nid yw'n syndod y nodwyd mai heriau economaidd/ariannol a chyllid llai oedd yr her fwyaf cyffredin a oedd yn wynebu sector y gwasanaethau cyhoeddus. Ers 2009, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi dioddef bron £1 biliwn o doriadau, ac mae hyn wedi arwain at golli swyddi a newidiadau yn y gwasanaethau a gynigir. Yn ogystal â hynny, mae recriwtio a datblygu staff yn heriau pellach, a dilynwyd hyn gan gynllunio ar gyfer olyniaeth a chadw staff.
Y Gweithlu
Mae llawer o ffactorau'n nodweddu'r gweithlu, fel y'u manylir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘The Public Sector in Wales’:
• Rhwng 2005-06 a 2017-18, bu lleihad o 2,493 yn nifer yr athrawon cyfwerth ag amser llawn, tra y bu cynnydd o 9,336 yn nifer y cynorthwywyr dysgu.
• Mae menywod 28 o weithiau'n fwy tebygol o gael eu cyflogi fel cynorthwywyr dysgu yn y sector cynradd na dynion.
• Bu cwymp yng nghyfran y dynion sy'n athrawon neu gynorthwywyr dysgu cymwys o 25% yn 2005-06 i 18.8% yn 2017-18.
• Yn ystod yr un flwyddyn, roedd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol GIG Cymru'n cyflogi 79,916 o bobl.
• Mae'r gwariant ar staff asiantaethau yn y GIG bron wedi dyblu ers 2009-10.
• Bu cwymp o 534 (9.6%) yn nifer gweithwyr Llywodraeth Cymru rhwng 2014-15 a 2017-18.Mae'r gwariant ar
gyflogau fel cyfran o gostau gweithwyr wedi cwympo o 75.7% i 73.4% rhwng 2014-15 a 2017-1869
Parodrwydd am Waith
Dywedodd dros 51% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo bod lefel parodrwydd am waith y gweithwyr newydd yn amrywio; dywedodd 18% nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith o gwbl. Nodwyd mai'r lefelau dymunol o sgiliau a phrofiad gwaith oedd yr eithriadau mwyaf i'r mwyafrif.
Heriau o ran Sgiliau
Dywedodd 23 o'r ymatebwyr eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau yn y meysydd canlynol o swyddi:
• Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion
• Swyddi proffesiynol
• Swyddi technegol a phroffesiynol cysylltiedig
• Swyddi gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill
• Swyddi crefftau medrus
Nodwyd mai sgiliau neu wybodaeth arbenigol angenrheidiol i gyflawni'r rôl oedd y bwlch mwyaf sylweddol mewn sgiliau gan 61% o'r ymatebwyr. Dilynwyd hyn gan sgiliau TG arbenigol neu uwch (38%) a sgiliau cy- fathrebu (35%).
Mae sgiliau digidol yn ystyriaeth allweddol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu yn y sector hwn. Hoffai'r grŵp clwstwr weld datrysiadau digidol yn datblygu mewn modd a fyddai'n cwmpasu pob maes yn y sector, gyda sefydliadau'n fodlon cwmpasu'r ffyrdd newydd hyn o weithio a pheidio â bod mor wrth-risg.
Mae dadansoddiad70 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
69 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI 70 RLSP analysis of EMSI Job Posting Analytics
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector









































































   65   66   67   68   69