Page 69 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 69

 3.9 Canolbarth Cymru
Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
Sir Maint y Busnes
Micro Bach
17 5 Adeiladu 10 3
Y diwydiannau 22 4 creadigol a TGCh
Bwyd a rheoli tir 34     5 Gwasanaethau 6 1
proffesiynol
Iechyd a gofal 12 cymdeithasol
Hamdden, twristiaeth 25 a manwerthu
Cyfanswm
69
 Prentisiaethau
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr eu bod yn cyflogi prentisiaid, sy'n gadarnhaol. Cynigir mwyafrif y rhain yn y meysydd canlynol: gweinyddu busnes, adeiladu, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, rheoli a phroffesiynol, a pheirianneg.
Dywedodd un sefydliad nad yw'n cyflogi prentisiaid fod fframweithiau presennol sy'n diwallu eu hanghenion ond ni allant ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy'n fodlon ei gynnal yn eu hardal. Yn ogystal â hynny, mae fframweithiau ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru a fyddai'n dwyn budd i'r sefydliad ond, yn amlwg, ni allant eu defnyddio.
Hefyd, dywedodd sefydliad arall fod asesiadau WEST, sy'n rhan orfodol o brentisiaeth, yn rhwystr i weithwyr hŷn. Ystyriodd chwe ymatebwr fod yr ardoll brentisiaethau yn negyddol. I fwyafrif y sefydliadau hyn, mae'r gost yn uwch na'r elw a gânt, er bod llawer yn nodi eu bod wrthi'n trafod â darparwyr.
Brexit
Mae cyllid a chostau cynyddol yn ystyriaeth allweddol i sefydliadau sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus. Mae caffael, colli staff a cholli sgiliau hefyd yn broblemau allweddol.
Blaenoriaeth
Mae angen i wasanaethau cyhoeddus gael mwy o lais am sut y cyflawnir hyfforddiant a bod y fframweithiau yn addas at y diben.
        Canolig Mawr
      Deunyddiau, gweithgynhyrchu ac ynni uwch
3 2 27 0 0 13
0 0 26 6 1 46
                      1 1 9 6 3 5 26 17 1 2 45
              Sector cyhoeddus Cyfanswm
2     3 128     44
3     2 10 17     13 202
  Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector






































































   67   68   69   70   71