Page 71 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 71

 • • • • • • • • • •
Yn
o ran recriwtio. Er enghraifft, mae'r pellter i'w deithio i'r gwaith yn her sylweddol i rai ac mae'r cysylltedd a'r seilwaith TGCh, a ystyrir yn ddiffygiol, yn gwaethygu'r broblem hon.
Hoffai cynrychiolwyr grŵp clwstwr Canolbarth Cymru weld mwy o waith i ddeall sut orau i ddenu a chadw unigolion medrus yn y rhanbarth.
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Nid yw mwyafrif yr ymatebwyr yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant, ond dywedodd 38% eu bod yn wynebu rhwystrau. Yn debyg i'r patrymau a welir yn Ne-orllewin Cymru, y rhwystr mwyaf cyffredin a nodwyd yw methu neilltuo amser staff, a dilynwyd hyn gan drafferth dod o hyd i'r darparwyr hyfforddiant i gynnal yr hyfforddiant ar adeg sy'n gyfleus iddynt, a diffyg darparwyr hyfforddiant lleol da.
Mae angen ymestyn y cynigion addysg bellach a dysgu yn y gwaith yng Nghanolbarth Cymru gan fod tystiolaeth yn dangos bod anghydbwysedd sylweddol rhwng amrywiaeth y cyrsiau a gynigir rhwng y ddwy ardal economaidd. Mae llai o lwybrau cynnydd clir yng Nghanolbarth Cymru, felly mae hyn yn cyfyngu gallu dysgwyr i ddilyn eu dewis yrfaoedd ac yn gwaethygu'r heriau o ran sgiliau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu.
Mae tystiolaeth anecdotal, y mae'r Bartneriaeth wedi cael hyd iddi, yn dangos bod y cyfyngiadau ar y cynigion hyn yn arwain at ddysgwyr yn gorfod teithiau pellteroedd sylweddol (weithiau dros y ffin) i ddatblygu'r sgiliau dymunol ac angenrheidiol. Mae hon yn broblem i ddysgwyr sydd heb ddechrau cyflogaeth hyd yn hyn ac i unigolion sydd eisoes yn gweithio ac y mae angen hyfforddiant pellach arnynt. Mae symudiad y dysgwyr hyn yn gwaethygu'r duedd o ‘ddraen dawn’ o'r ardal.
Dywedodd mwyafrif helaeth (75%) y busnesau nad ydynt yn ymwybodol o'r rhaglenni cyllid sy'n bodoli i'w cynorthwyo â hyfforddiant. Mae'n amlwg fod angen mwy o ymdrech i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghanolbarth Cymru. Gallai manteisio ar rai o'r rhaglenni cyllid hyn leddfu rhywfaint o'r heriau a'r pwysau a achosir gan y diffyg cyrsiau addysg bellach traddodiadol sydd ar gynnig yn yr ardal.
Peirianwyr
Arbenigwyr TG
Gweithwyr cymdeithasol Cogyddion
Gwneuthurwyr
Gweithwyr gofal
Rolau gwasanaeth cwsmeriaid Saer coed
Rolau tymhorol
Deintyddion
fwy cyffredinol, gall yr heriau a fanylir uchod, y gellir eu nodweddu i natur wledig, waethygu'r problemau
71
 Recriwtio
Dywedodd 35% o'r ymatebwyr eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol, ond dywedodd 65% nad ydynt yn cael trafferth â hyn, sy'n gadarnhaol. Mae'r rheiny sy'n cael trafferth yn wynebu heriau yn y meysydd hyn:
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector













































































   69   70   71   72   73