Page 70 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 70

 70
 Heriau
Y prif broblemau a oedd yn wynebu busnesau sy'n gweithredu yng Nghanolbarth Cymru oedd creu elw, heriau economaidd/ariannol a sicrhau gwaith.
Mae'n ymddangos bod cysylltedd gwael a chysylltiadau trafnidiaeth gwael yn fwy o broblem yng Nghanolbarth Cymru ac mae cyfran fwy o fusnesau'n tynnu sylw at y rhain fel heriau. Mae hyn yn gyson ag adborth a gasglwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac, yn rhannol, symptom ydyw o natur wledig y rhanbarth.
Mae lab byw Canolbarth Cymru'n diffinio'r heriau y mae Canolbarth Cymru'n eu hwynebu o ganlyniad i’w natur wledig fel a ganlyn:
‘pellenigrwydd, adeiledd cyfyngedig, mynediad i farchnadoedd a gwasanaethau, yr economi amaethyddol newidiol, a'r dyfodol ar ôl Brexit.’72
Y Gweithlu
Mae cyfanswm o 76,391 o swyddi yn y rhanbarth, gyda chyflog cyfartalog o £22,900. Mae'r cyflogau cyfartalog £6,400 yn llai na'r cyfartaledd cenedlaethol o £29,300.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y diwydiannau canlynol:
• Tyfu cnydau, garddio marchnadol, garddwriaeth a ffermio anifeiliaid
• Gweithgareddau gweinyddu cyhoeddus cyffredinol
• Gweithgareddau ysbytai
Parodrwydd am Waith
Dywedodd 50% o'r ymatebwyr fod gweithwyr newydd yn eu gweithlu'n barod am waith. Dywedodd y gwed- dill ei bod yn amrywio (37%) a dywedodd 13% nad ydynt yn barod am waith o gwbl. Fel y'i gwelwyd ledled De-orllewin Cymru, nodwyd nad oes gan weithwyr y lefelau dymunol o sgiliau a phrofiad gwaith.
Mae cyflogwyr yn teimlo bod lefelau rhifedd a llythrennedd gweithwyr newydd yn wael. Nid problem yng Nghanolbarth Cymru yn unig yw hon, ond problem a nodwyd yn gyson dros y tair blynedd diwethaf ledled y rhanbarth.
Mae'r diffyg profiad gwaith y mae cyflogwyr yn teimlo sy'n gyffredin yn gwaethygu'r diffyg sgiliau ymarferol sydd gan y rheiny sy'n gadael addysg. Dywedodd 30% o'r ymatebwyr fod gweithwyr yn tueddu i fod ag agweddau neu gymhelliant gwael, sy'n cadarnhau hyn. Mae cyflogwyr am weld gwelliant yn y ddarpariaeth sgiliau cyflogaeth er mwyn sicrhau bod gan y rheiny sy'n gadael addysg well dealltwriaeth o'r byd gwaith.
Heriau o ran Sgiliau
Dywedodd 36% o'r ymatebwyr eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau, ac mae mwyafrif y rhain mewn swyddi crefftau medrus, swyddi proffesiynol, a swyddi proffesiynol a thechnegol cysylltiedig.
Diffiniwyd yr heriau hyn o ran sgiliau fel a ganlyn:
• Sgiliau neu wybodaeth arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r rôl% (56%)
• Sgiliau cyfathrebu (23%)
• Datrys problemau (16%)
• Sgiliau TG uwch neu arbenigol (15%)
 72 https://rural-urban.eu/living-lab/mid-wales
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector










































































   68   69   70   71   72