Page 14 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 14

14
2.1 Y Farchnad Lafur
2.1.1 Perfformiad Economaidd
Mae’r rhanbarth yn gyfan yn dal i fod y tu ôl i gyfartaleddau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn nhermau Gwerth Ychwanegol Gros. Mae’r gwerthoedd mynegai mwyaf diweddar sydd ar gael yn dangos ffigurau o 66.0 i Dde-orllewin Cymru, 65.1 i’r Canolbarth a 72.7 i Gymru, o gymharu a gwerth mynegai o 100 i’r Deyrnas Unedig.
2.1.2 Demograffeg
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2017 yn dangos bod tua 205,591 o bobl yn byw yn y Canolbarth. Mae’r un amcangyfrifon yn dangos bod tua 698,733 o unigolion yn byw ym mhedair sir y De-orllewin. Mae gan y ddwy ardal economaidd boblogaeth sy’n heneiddio. Pobl hy^n na 65 oed yw 26% o boblogaeth y Canolbarth a 22% o boblogaeth y De-orllewin.
Mae poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar systemau iechyd, gofal cymdeithasol a phensiynau, sy’n cynyddu dros amser. Mae adroddiad Golden Age Index gan Price Waterhouse Cooper a gyhoeddwyd yn ddiweddar (2017) yn awgrymu y dylid annog gweithwyr hy^n i aros yn y gweithlu yn hirach, er mwyn gwrthbwyso’r costau uwch hyn. Mae ei ymchwil yn awgrymu y byddai hyn yn cynyddu gwariant defnyddwyr, yn codi CDG a refeniw trethi ac yn gwella iechyd a lles pobl hy^n trwy eu cadw’n weithgar yn feddyliol ac yn gorfforol.
Mae nifer o ymyriadau sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd mewn gwledydd eraill i gynyddu a chynnal y gyfradd cyflogaeth ymysg gweithwyr hy^n. Mae’r blaenoriaethau allweddol mae’r gwledydd hyn yn mynd ar eu hôl (ac y gellid eu rhoi ar waith yn y rhanbarth) yn cynnwys;
• Diwygio pensiynau a chymhellion ariannol i ymddeol yn hwyrach,
• Mwy o allu i weithwyr hy^n weithio’n hyblyg,
• Mwy o allu i fanteisio ar gynlluniau ymddeol hyblyg,
• Cynlluniau mentora o chwith, gan ddefnyddio gweithwyr iau i fentora gweithwyr hy^n, er enghraifft
mewn sgiliau digidol,
• Ehangu prentisiaethau i weithwyr hy^n,
• Polisïau cadarn yn erbyn gwahaniaethu.
2.1.3 Lefelau cymwysterau
Mae dadansoddiad o’r data mwyaf diweddar sydd ar gael yn dangos bod gan y De-orllewin gyfran fwy o oedolion oedran gweithio sydd heb gymwysterau o gymharu â’r cyfartaledd i Gymru. Fodd bynnag, nid yw hy^n yn wir yn y Canolbarth, lle mae’r cyfartaledd 2.5 pwynt canran yn is na’r cyfartaledd i Gymru.
2.1.4 Cyflogaeth a diweithdra
Mae cyfradd anweithgarwch economaidd y De-orllewin (26.1) yn cymharu’n negyddol â’r gyfradd i Gymru (23.5). Mae hyn yn awgrymu bod mwy o bobl yn economaidd anweithgar fel cyfran o’r boblogaeth gyfan. Mae ystadegau’n dangos bod 14,400 o bobl yn ddi-waith yn y rhanbarth. Mae’r ffigurau cyfatebol ar gyfer y Canolbarth yn dangos darlun mwy cadarnhaol. 23.2 yw ei gyfradd anweithgarwch economaidd a chofnodir bod 3,300 o bobl yn ddi-waith.
Mae’r sectorau mwyaf o ran cyflogaeth yn y De-orllewin yn cynnwys; Gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd (99,800), Cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd (85,200) a Chynhyrchu (31,500).
Mae’r sectorau cyflogaeth mwyaf yn y Canolbarth yn cynnwys; Gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd (26,400), Cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd (23,500) ac Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota (13,300).
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   12   13   14   15   16