Page 16 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 16

16
Anghydraddoldeb
Anabledd
Yn ôl elusen anabledd flaenllaw, gan Gymru mae’r gyfran fwyaf o bobl anabl yn ei phoblogaeth, y nifer fwyaf o hawlwyr budd-daliadau cysylltiedig ag anabledd a’r bwlch cyflogaeth mwyaf gyda phobl nad ydynt yn anabl yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig1. At hynny, canfu adroddiad a gwblhawyd yn ddiweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree fod 39% o bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd o gymharu â 22% o bobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn awgrymu bod anghydraddoldeb amlwg yn y farchnad lafur. Trwy’r Cynllun Cyflogadwyedd mae’n hanfodol bod mwy o gynwysoldeb a hygyrchedd i’r holl bobl anabl sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ganddynt y sgiliau iawn, y drafnidiaeth iawn a’r wybodaeth iawn i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd a chreu economi well a thecach.
Anghydbwysedd rhwng y rhywiau
Mae tystiolaeth sylweddol i awgrymu nad yw menywod a dynion yn cael yr un hawliau a chyfleoedd ar draws pob sector o’r gymdeithas. Yng Nghymru mae hyn yn arbennig o gyffredin yn y farchnad lafur a’r economi lle nad yw dynion a menywod yn cael eu cynrychioli’n gyfartal ar draws amrywiaeth o feysydd galwedigaethol. I roi hyn yn ei gyd-destun, ym mis Ionawr 2017, dynion oedd 59% o ‘reolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion’. Yn ystod yr un cyfnod, menywod oedd 81% o’r bobl oedd yn gweithio ym meysydd ‘gofalu, hamdden a galwedigaethau gwasanaeth eraill’ ac o’r 153,200 o bobl oedd yn gweithio mewn ‘galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol’, menywod oedd 72%.
Mae hyn yn pwysleisio problemau o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, lle mae llai o fenywod yn y meysydd galwedigaethol lle mae cyflogau’n tueddu i fod yn uwch.
‘Solving the gender pay gap over the long term means tackling an ingrained difference in the skills that women gain and choose to develop during their academic studies and, therefore, in the jobs they go on to take. If more women are encouraged to study STEM subjects during their education and are taught in a way that recognises their cognitive preferences, we not only prepare them for a more dynamic world of work but we simultaneously start to bridge the gap in pay. This will require clear focus by both policymakers and employers.’2
2.2.2 Digidol, Awtomatiaeth a Diwydiant 4.0
Mae llawer o sylwebyddion economaidd yn credu bod y byd ar drothwy cyfnod o drawsnewid digidol sylweddol, y cyfeirir ato yn aml fel y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol neu Ddiwydiant 4.0. Bydd y trawsnewid hwn yn cael ei hwyluso gan welliannau sylweddol mewn cyflymder cysylltedd, pw^ er cyfrifiaduron ac argaeledd data. Bydd hefyd yn cefnogi symudiad sylweddol tuag at awtomatiaeth prosesau, fydd yn cael ei gynyddu gan ffactorau fel dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar bob rhan o'r economi, nid yn unig y rheiny sy’n gweithredu yn yr economi TGCh a digidol bresennol. Mae’r meysydd a nodir fel y rhai mwyaf tebygol o newid oherwydd trawsnewid digidol yn cynnwys swyddi gweithgynhyrchu, manwerthu a chymorth swyddfa.3
Bydd yn fwyfwy pwysig datblygu sgiliau digidol ar bob lefel er mwyn sicrhau cystadleurwydd y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan weithwyr newydd yn y farchnad lafur a gweithwyr presennol y sgiliau priodol i gynorthwyo busnesau. Bydd hyn yn gosod cyfrifoldeb ychwanegol ar unigolion a busnesau i wella eu sgiliau digidol yn eu swyddi.
1 http://www.disabilitywales.org/national-disgrace-high-price-disability-poverty-wales/
2 https://www2.deloitte.com/content/dam/Deloitte/uk/Documents/Growth/deloitte-uk-women-in-stem-pay-gap-2016.pdf 3 https://www.pwc.co.uk/economic-services/ukeo/pwc-uk-economic-outlook-full-report-march-2017-v2.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   14   15   16   17   18