Page 18 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 18
18
d) Mynediad at wasanaethau
Mae natur wledig ac yn arbennig natur wledig iawn yn gosod pwysau sylweddol ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau oherwydd nifer o ffactorau gwahanol sy’n cynnwys;
• Dwyseddau poblogaeth is sy’n ei gwneud yn anodd sicrhau arbedion maint cymharol. Gall hyn gynnwys nifer fach o gleientiaid i wasanaethau eu cynorthwyo, gan olygu costau mawr i gyrff darparu, yn ogystal â chyfyngu ar gyfleoedd ymgysylltu posibl.
• Mae pellteroedd teithio mawr rhwng trefi’n cynyddu’r amser a’r gost i gael gwasanaethau. Gall hyn lesteirio datblygiad sgiliau unigolion mewn ardaloedd gwledig a all ddod ar draws y rhwystrau hyn.
• Mae cysylltedd digidol gwael yn dal i greu her oherwydd cost gosod band eang ffibr. Mae problemau gyda ‘milltir olaf cysylltedd’ yn dal i greu her sylweddol i lawer mewn ardaloedd gwledig.
2.2.4 Prentisiaethau
Astudiodd 5,635 o ddysgwyr trwy raglenni prentisiaeth yn y De-orllewin ym mlwyddyn academaidd 2016/17. Mae hyn yn ostyngiad bach, sef 1%, o gymharu â’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015/16. Yn y Canolbarth, astudiodd 1,280 o ddysgwyr trwy raglenni prentisiaeth ym mlwyddyn academaidd 2016/17. Mae hyn 5% yn llai na’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015/16. I weld y data hyn yn fanwl, cliciwch yma. O gofio’r gwerth economaidd a chymdeithasol sydd gan brentisiaethau, gellir gwneud mwy i annog mwy o bobl i fanteisio arnynt. Mae tystiolaeth cyflogwyr yn tynnu sylw at lawer o broblemau y gellid mynd i’r afael â hwy trwy fwy o brofiad a dysgu yn y gweithle y gall prentisiaethau eu darparu. Mae llawer o fuddion i’r cyflogwr ac i’r dysgwr, ac yn ei thro i’r economi yn gyfan.
Buddion i Fusnes:
Deellir bod unigolyn sydd wedi cwblhau prentisiaeth fel rheol yn codi cynhyrchiant £214 yr wythnos. Ar lefel sector, amcangyfrifir bod prentisiaethau fel arfer yn codi cynhyrchiant5 y sawl sydd wedi’u cwblhau:
• £83 yr wythnos yn y sector manwerthu
• £114 yn y sector gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal
• £268 yn y sector busnes, gweinyddu a chyfreithiol
• £401 yn y sector adeiladu a chynllunio, a
• £414 yn y sector peirianneg a gweithgynhyrchu
Mae’r buddion eraill yn cynnwys gwelliannau i ansawdd cynnyrch neu wasanaeth, cynhyrchiant a morâl y staff.
Buddion i’r Economi:
Mae adroddiad gwerthuso am Ddysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru, 2007-2011 (Llywodraeth Cymru, 2014) yn dangos gwerth economaidd a chymdeithasol prentisiaethau yng Nghymru. O ran gwerth economaidd prentisiaethau, mae’r adroddiad yn amcangyfrif gwerth prentisiaid i economi Cymru fel a ganlyn:
• Mae Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) yn cynhyrchu tua £510 miliwn o werth y flwyddyn i economi Cymru (ar sail y lefelau cyfranogi diweddaraf).
• Mae Prentisiaeth (Lefel 3) yn cynhyrchu swm tebyg y flwyddyn o £500 miliwn o werth’6,7
5 nid yw’r enillion cynhyrchiant uchod yn cael eu cyflawni nes cwblhau ac, yn y rhan fwyaf o sectorau, mae enillion net negatif i gyflogwyr i ddechrau, oherwydd lefel yr hyfforddiant sy’n ofynnol cyn i allu cynhyrchu prentis agosáu at lefel gweithiwr medrus.
6 Ffederasiwn Cenedlaethol Hyfforddiant Cymru – Gwerth Prentisiaethau i Gymru (2015)
7 Cyfrifwyd yr amcangyfrif hwn o werth prentisiaid i economi Cymru drwy dybio £16 o enillion am bob punt o arian cyhoeddus a wariwyd ar Brentisiaeth Lefel 2 a £21 ar Brentisiaeth Lefel 3 (y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2012). Roedd yr amcangyfrif hefyd yn tybio bod gwariant ar Brentisiaethau Lefel 2 yn £32-£36 miliwn ac ar Brentisiaethau Lefel 3 yn £24-28 miliwn (Llywodraeth Cymru, 2014).
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi