Page 19 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 19
19
2.2.5 Dysgu Oedolion
Mae ymagwedd dysgu gydol oes yn cael ei chefnogi’n llawn gan y Bartneriaeth a chydnabyddir pwysigrwydd dysgu oedolion. Yn ddiymwad mae addysg gymunedol ac addysg yn y gweithle yn ganolog i’r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu i unigolion sy’n wynebu rhwystrau unigryw ac sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur ac yn wynebu anfantais. Mae’n hanfodol cydnabod cyfleoedd dysgu a gynigir trwy ddysgu oedolion am y cyfleoedd i gamu ymlaen maent yn eu creu ac am eu buddion economaidd ehangach wrth gynorthwyo unigolion i gael gwaith a lleihau eu dibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth.
2.3 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Mae’r Bartneriaeth yn cefnogi prif nodau’r ddeddf trwy ei gweithgarwch parhaus sy’n cynnwys:
• Cynorthwyo busnesau i ganfod a chynnig tystiolaeth o’r gofynion o ran sgiliau mae eu hangen yn lleol ac i ymgysylltu â darparwyr i fynd i’r afael â bylchau sgiliau ac ysgogi ffyniant a thwf.
• Hybu cydraddoldeb rhanbarthol trwy gynorthwyo unigolion a busnesau i gyflawni eu potensial trwy d darparu cyfleoedd dysgu a llwybrau camu ymlaen priodol.
• Cefnogi cyflogaeth gynaliadwy trwy hyrwyddo prentisiaethau a chyfleoedd dysgu galwedigaethol eraill gan gynnwys prentisiaethau uwch, gradd-brentisiaethau a rhannu prentisiaethau.
• Ymgysylltu â phobl ifanc i hyrwyddo sgiliau a chyfleoedd gyrfa rhanbarthol gan weithio gydag ysgolion i sicrhau y caiff pob dysgwr y cyfle i gyflawni ei botensial.
• Hybu a chefnogi dysgu gydol oes trwy gynorthwyo â sgiliau gwaith a chyflogadwyedd a chefnogi datblygiad sgiliau parhaus a chyflogaeth gynaliadwy.
• Cefnogi’r Gymraeg trwy gynyddu argaeledd darpariaeth a mynediad i ddysgwyr.
• Cefnogi trawsnewid y rhanbarth a’i economi gyda’r sgiliau digidol priodol gan gynnwys trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe er mwyn sicrhau swyddi cynaliadwy sgiliau uchel a chyflogau uchel ar gyfer y
dyfodol.
• Cefnogi twf cynaliadwy a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd trwy hybu sgiliau technoleg werdd
a dulliau arloesol o gyflenwi sgiliau.
2.4 Brexit
Nododd sbarduno Erthygl 50 ar 29 Mawrth 2017 ddechrau’r broses i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd dros gyfnod o 2 flynedd. Ar hyn o bryd mae effeithiau posibl Brexit yn dal i fod yn aneglur sy’n creu her sylweddol wrth ddeall galw busnesau yn y dyfodol a’r effeithiau posibl ar y farchnad lafur o ganlyniad.
Mae tystiolaeth oddi wrth y Centre for Cities yn pwysleisio pwysigrwydd allforion i’r Undeb Ewropeaidd o’r rhanbarth. Abertawe oedd yr uchaf ond 6 yn nhermau cyfanswm canran yr allforion i’r Undeb Ewropeaidd, gyda 60% o’r allforion yn mynd i’r Undeb Ewropeaid8. Mae’r McKinsey Global Institute wedi nodi y bydd gwella cynhyrchiant yn hanfodol i lwyddiant yr economi ar ôl Brexit gan fod 66% o’r gweithwyr yn y Deyrnas Unedig yn gweithio i gwmnïau sydd â chynhyrchiant is na’r cyfartaledd ar hyn o bryd’9.
Mae dadansoddiad o’r dystiolaeth a gasglwyd oddi wrth gyflogwyr gan y Bartneriaeth yn dangos, o’r 436 o fusnesau a atebodd y cwestiwn, mai dim ond 5% oedd yn teimlo y bydd Brexit yn gadarnhaol iddynt. Dywedodd 30% y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar eu busnes a nododd y 65% arall eu bod yn ansicr beth i’w ddisgwyl ac felly beth fydd ei effeithiau.
8 http://www.centreforcities.org/wp-content/uploads/2017/01/Cities-Outlook-2017-Web.pdf 9 http://www.mckinsey.com/global-themes/europe/productivity-the-route-to-brexit-success
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi