Page 20 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 20

20
Gallai Brexit fod yn arbennig o niweidiol i’r sector Bwyd a Ffermio. Mae gwaith ymgysylltu â’r diwydiant yn awgrymu bod pryderon yn gyffredin, yn enwedig ynghylch recriwtio. Mae llawer o fusnesau sy’n gweithredu yn y sector cynhyrchu bwyd yn dibynnu ar weithlu sy’n cynnwys gwladolion o'r Undeb Ewropeaidd i raddau helaeth. Felly mae cytundeb terfynol ar hawliau’r gwladolion hyn o’r Undeb Ewropeaidd yn hollbwysig i ddyfodol y busnesau hyn.
Mae pryderon amrywiol yn y sector Ffermio. Mae colled bosibl cymorthdaliadau, marchnadoedd a llafur yn creu problemau digynsail a fydd yn cael effeithiau a allai fod yn niweidiol ar amryw o gynhyrchion, gan gynnwys cynhyrchion llaeth, cnydau âr a da byw. Gallai colli cymorthdaliadau orfodi ffermwyr sydd eisoes o dan bwysau ariannol difrifol i beidio â gweithredu. Felly mae’n hanfodol i’r llywodraeth allu rhoi sicrwydd i’r sector ffermio y bydd cymorth tebyg ar gael i ddiogelu diwydiant sy’n hanfodol bwysig i’r rhanbarth.
Amser a ddengys beth fydd effeithiau llawn Brexit. Fodd bynnag, gallai newidiadau i fasnach gynnig cyfleoedd i rai a bod yn niweidiol i eraill. Mae oddeutu hanner masnach y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd a thrwy aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd mae costau masnach yn cael eu lleihau, gan ganiatáu i ddefnyddwyr elwa ar nwyddau a gwasanaethau rhatach ac i fusnesau’r Deyrnas Unedig allforio mwy. Gallai newid i reoliadau masnach olygu y bydd yn costio mwy i fusnesau sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig allforio i’r Undeb Ewropeaidd. I’r gwrthwyneb, fodd bynnag, mae rhai’n dadlau y bydd hyn yn caniatáu i fusnesau fasnachu’n fwy rhydd gyda gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gan fanteisio ar farchnadoedd newydd. Mae potensial i hyn effeithio ar bob busnes sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig, ond o bosibl gallai ddod yn broblem fwy cyffredin i’r rhanbarth o gofio ei gyfran fawr o fusnesau micro a bach.
2.5 Cyngor a Chyfarwyddyd ar Yrfaoedd
Mae’r Bartneriaeth yn teimlo’n gryf iawn bod cyngor a chyfarwyddyd ar yrfaoedd yn gwbl hanfodol i greu dyfodol gwell i ddysgwyr.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ailadrodd neges sydd wedi cael ei thrafod ers degawdau:
‘...the perceptions children have about certain jobs and careers are formed and sometimes cemented at a young age. These studies have emphasised that children’s aspirations are often shaped, moulded and re- stricted by gender stereotyping, socio-economic background and, importantly, who they know. These factors can, and do, go on to influence the academic effort children exert in certain lessons, the subjects they choose to study and the jobs they end up pursuing.
Mae’r canfyddiadau eraill o bwys yn cynnwys;10
• O gryn dipyn (mwy na 10 pwynt canran), y swydd fwyaf poblogaidd i blant yn y Deyrnas Unedig oedd un ym maes chwaraeon. Tynnodd 21.3% o’r plant lun o hon fel y swydd yr hoffent ei gwneud pan fyddent yn hy^n. Wedyn roedd athro/athrawes, milfeddyg a chyfryngau cymdeithasol a chwarae gemau.
• Canfu’r dadansoddiad mai rhieni ac aelodau eraill o’r teulu estynedig (brodyr/chwiorydd, mam-gu/ tad-cu ac ati) oedd â’r dylanwad mwyaf wrth ddiffinio dyheadau plant o ran gyrfa. Y person neu bobl â’r dylanwad lleiaf oedd aelod o’r gymuned leol.
• Dywedodd llai nag 1% o’r plant eu bod wedi clywed am y swydd oddi wrth wirfoddolwr o fyd gwaith a ddaeth i’r ysgol.
• Mae ymchwil yn canfod datgysylltiad mawr rhwng y gyrfaoedd mae plant oedran cynradd â’r diddordeb mwyaf ynddynt a’r rhai mae eu hangen ar yr economi. Mae camlinelliad tebyg hefyd yn amlwg ymysg pobl ifanc mewn addysg uwchradd, yn groes i’r dadleuon bod dyheadau plant o ran gyrfa yn fyrhoedlog ac yn newidiol ac y dylid eu hanwybyddu yn y pen draw.11
10 Wedi’i seilio ar ganfyddiadau arolwg o blant 7-11 oed yn y Deyrnas Unedig.
11 https://www.educationandemployers.org/wp-content/uploads/2018/01/DrawingTheFuture.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   18   19   20   21   22