Page 22 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 22

22
Profiad gwaith ymarferol
Roedd pryderon hefyd ynghylch lefelau profiad ymarferol gweithwyr newydd yn yr amgylchedd gwaith sy’n profi’n rhwystr i gyflogaeth. Mae pryder cyffredinol ar draws pob sector na roddir cyfle i bobl ifanc yn arbennig gael profiad o amgylchedd gwaith yn yr ysgol neu’r coleg. Mae cyflogwyr hefyd yn pryderu nad yw rhywfaint o ddysgu’n berthnasol i waith ac nad yw’n gymwys yn yr amgylchedd gwaith. Mae enghreifftiau’n cynnwys y sector TGCh lle mae rhaglenni proffesiynol yn datblygu’n gyflymach nag y mae’r cwricwlwm yn newid.
Ymwybyddiaeth o gyfleoedd a pharodrwydd i gyflawni swyddi
Awgrymodd cyflogwyr fod diffyg ymwybyddiaeth o rai o’r cyfleoedd sy’n bodoli mewn sectorau a hefyd heriau o ran recriwtio gan arwain at ddiffyg ymgeiswyr. Yn aml roedd hyn yn cael ei wneud yn waeth gan gyfradd trosiant staff sylweddol. Nododd adborth o’r arolwg ac o’r grŵp clwstwr fod hyn yn gyffredin mewn llawer o dasgau llaw yn y sector bwyd a diod, sydd ar hyn o bryd yn dibynnu’n helaeth ar lafur o’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â rhai swyddi penodol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nododd cyflogwyr bod angen mwy o waith i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth yn y sectorau hyn, gan gynnwys gwella dirnadaethau yn y sector. Mae gwaith yn mynd rhagddo er enghraifft yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r sector Hamdden a Thwristiaeth.
Swyddi medrus proffesiynol a thechnegol
Mae galw o hyd ar draws pob sector am alwedigaethau crefftau medrus (35%) yn ogystal â sgiliau technegol (12%) a phroffesiynol (28%) megis peirianneg ac ati. Mae lefelau’r galw yn amrywio ar draws sectorau er bod mwy o alw am unigolion medrus na meysydd galwedigaethau llaw a sgiliau is. Gan fwyaf mae cyflogwyr yn barod i ddatblygu staff er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth dechnegol ond pan fo angen mae llawer yn ei chael yn anodd recriwtio unigolion sydd â’r sgiliau gofynnol.
Cefnogi anabledd a chynhwysiant yn y farchnad lafur
Mae’r cyfleoedd economaidd yn y rhanbarth a gynigir gan fwy o gynhwysiant yn y farchnad lafur yn sylweddol, ond mae heriau sylweddol i’w goresgyn gan gyflogwyr a chan randdeiliaid. Bydd y grw^ p cyflogadwyedd yn cydweithio â Chymru’n Gweithio i gefnogi mynediad i’r cleientiaid hyn at wasanaethau a’r farchnad lafur, yn arbennig lle y gall yr unigolyn wynebu nifer o rwystrau, ac i hybu cyflogaeth hyderus o ran anabledd.
2.7 Ysgolion
2.7.1 Cwricwlwm Ysgolion Newydd
Mae’r Bartneriaeth yn croesawu’r datblygiadau sy’n cael eu cynnig gan y cwricwlwm ysgolion newydd o ganlyniad i adolygiad Donaldson. Yn gyntaf, mae’r Bartneriaeth yn gobeithio y bydd diben y cwricwlwm newydd wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc i fod yn;
• ‘dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
• cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
• dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr
o gymdeithas’
yn creu unigolion mwy cyflawn. Dylai hyn leddfu rhai o’r heriau mae cyflogwyr yn eu hwynebu gyda gweithwyr newydd yn eu sectorau.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   20   21   22   23   24