Page 23 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 23
23
I fanylu ar hyn, nododd 19% o’r cyflogwyr a holwyd fod gweithwyr newydd yn eu gweithlu’n tueddu i fod ag agweddau gwael a heb ysgogiad. Mae parodrwydd am waith yn gyffredinol yn broblem fwy cyffredinol. Nododd 62% o’r busnesau a holwyd nad yw gweithwyr newydd yn eu gweithlu yn barod am waith (32%) neu fod hyn yn amrywio (30%).
At hynny, mae’r chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ yn alinio’n agos â’r sectorau blaenoriaethol a nodir yn y cynllun hwn, yn ogystal â bod â chysylltiadau uniongyrchol â’r prosiectau dyheadol mawr a gynigir i’r rhanbarth, fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn berthnasol i bob sector. Fodd bynnag, calonogol yw gweld bod y meysydd hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r heriau o ran sgiliau a nodwyd gan gyflogwyr trwy’r dystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth. I fanylu ar hyn, nododd 51% o’r busnesau a holwyd eu bod yn gweld bylchau sgiliau. O’r rheiny;
• nododd 21% fod yna fwlch o ran llythrennedd cyfrifiadurol a sgiliau TG sylfaenol a dywedodd 9% eu bod yn gweld bwlch o ran sgiliau TG uwch neu arbenigol
• dywedodd 18% eu bod yn gweld bylchau sgiliau sydd â chysylltiad uniongyrchol â rhifedd
• roedd llythrennedd yn broblem i 59% ac roedd y bylchau’n cynnwys; darllen a deall cyfarwyddiadau (18%), datrys problemau (29%) ac ysgrifennu cyfarwyddiadau, canllawiau, llawlyfrau neu adroddiadau (12%).
2.7.2 Ymgysylltu
Drwy gydol y flwyddyn cynllunio gyfredol mae’r Bartneriaeth wedi cynyddu ei gwaith ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac ysgolion ac wedi gwneud cynnydd da wrth feithrin y perthnasoedd hyn ymhellach er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn cynllunio nesaf. Dyma rai enghreifftiau;
1. Datblygu her newydd i Fagloriaeth Cymru a fydd yn cael ei threialu i ddechrau yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r her wedi’i seilio ar bedair thema’r Fargen ddinesig (gan alinio’n gadarnhaol â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd) a’i nod yw rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am y cynnig ei hun a sut mae’n ymwneud â hwy. Gan ddibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot caiff yr her ei chyflwyno ar draws Dinas Rhanbarth Bae Abertawe. Caiff model tebyg sy’n canolbwyntio ar Fargen Twf Canolbarth Cymru ei dreialu yng Ngheredigion a Phowys ar ôl rhoi’r wedd derfynol ar Gynnig y Fargen Twf.
2. Mynd i ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau sgiliau; Aeth y Bartneriaeth i nifer fawr o ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau sgiliau yn ystod y flwyddyn cynllunio gyda’r nod o ddosbarthu’r adnoddau sydd wedi’u cynhyrchu gan y Bartneriaeth a grybwyllwyd yn adran 10. Yn ystod y ffeiriau hyn siaradodd y Bartneriaeth â dysgwyr rhwng 11 a 18 oed am eu dyheadau o ran gyrfa ac am lefel ac ansawdd y cyngor gyrfaoedd maent yn ei gael neu wedi ei gael. Holwyd mwy na 450 o ddysgwyr ac ymgysylltwyd â channoedd rhagor trwy sgwrsio â hwy.
3. Ymgysylltu â phenaethiaid yr ysgolion uwchradd yn y rhanbarth; Yn y misoedd diwethaf mae’r Bartneriaeth wedi ymdrechu i gwrdd â phob pennaeth ar draws y rhanbarth i dynnu sylw at waith y Bartneriaeth a’r cyfleoedd a allai ddeillio o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Cafwyd derbyniad da iawn i hyn a bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn parhau.
Mae’r Bartneriaeth yn teimlo ei bod eisoes wedi datblygu sylfaen gref y gellir adeiladu arni yn ystod y flwyddyn cynllunio i ddod. Bydd gwaith ymgysylltu â’r penaethiaid yn parhau gyda’r gobaith o sicrhau y bydd y bobl ifanc sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn gallu elwa ar y cyfleoedd y gallai prosiectau dyheadol mawr eu creu.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi