Page 25 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 25

25
Mae’n bosibl y bydd newidiadau sylweddol hefyd mewn sectorau a nodwyd gan PWC sef masnach cyfanwerthu a manwerthu, gweithgynhyrchu, cludiant a storio a gwasanaethau gweinyddol a chymorth14.
Mae awtomatiaeth yn debygol o ysgogi gwella sgiliau. Mewn economïau datblygedig mae galwedigaethau sy’n galw am addysg uwchradd neu is ar hyn o bryd yn gweld lleihad net oherwydd awtomatiaeth, ond bydd y galwedigaethau sy’n galw am raddau coleg ac uwch yn cynyddu15 Mae hefyd yn debygol y bydd pob swydd yn y dyfodol ag elfen ddigidol ynddi yn hytrach na bod yn ddigidol yn benodol, er enghraifft, defnyddio rhaglenni teleiechyd wrth ddarparu gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig felly i safonau galwedigaethol ystyried effaith trawsnewid digidol yn eu meysydd galwedigaethol priodol, yn arbennig sut y gall swyddi elwa ar newid digidol a sut y gellir nodi cyfrifoldebau digidol unigolyn.
Newidiadau sector TGCh
Mae’r ffaith bod y diwydiant TGCh yn datblygu’n gyflym yn golygu bod ieithoedd rhaglennu a safonau’r diwydiant yn newid yn ddi-baid, a bod ar gyflogwyr angen i’w staff fod wedi’u hyfforddi yn y rhai mwyaf priodol i anghenion eu busnes a’u math o system. Mae tystiolaeth a gasglodd y Bartneriaeth oddi wrth gyflogwyr yn awgrymu nad yw’r ddarpariaeth TGCh yn llwyddo i gadw i fyny â’r newid ac nad yw’r ddarpariaeth yn ‘addas i’r diben’.
Mae cyflymder y newid yn effeithio ar allu safonau galwedigaethol i ddiwallu anghenion busnesau yn y sector TGCh ac mae’n bwysig i’r broses adolygu fod yn ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau yn y diwydiant.
Bydd y Bartneriaeth yn cynorthwyo â’r gwaith o ganfod swyddi a gofynion o ran sgiliau yn y dyfodol trwy ei rôl ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, gan ganolbwyntio ar ofynion 10 prosiect y Fargen Ddinesig sydd ar ôl. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy’r gweithgarwch hwn yn cael ei rhannu i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol priodol ar gyfer swyddi sy’n dod i’r amlwg.
2.10 Twf Gwyrdd
Mae’r weledigaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y strategaeth economaidd ‘Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd’ (2010) yn canolbwyntio ar sicrhau ffyniant economaidd trwy ‘gryfderau a sgiliau ei phobl a’i hamgylchedd naturiol’’. Rhan allweddol o’r strategaeth hon oedd nodi naw sector blaenoriaethol; TGCh, Ynni a’r Amgylchedd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Diwydiannau Creadigol, Gwyddorau Bywyd, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, Adeiladu, Twristiaeth a Bwyd a Ffermio. Bernir mai’r sectorau hyn a all ddarparu budd economaidd ehangach trwy elwa ar ‘TGCh, creu swyddi gwyrdd, sicrhau adnoddau ef- feithlon a symud tuag at economi carbon isel’’16.
Mae proffil economaidd Cymru wedi bod yn newid yn hanesyddol o sylfaen weithgynhyrchu yn bennaf gan olygu y bydd ‘i dueddiadau a newidiadau rhagweledig mewn strwythur diwydiannol oblygiadau pwysig o ran llunio polisïau twf gwyrdd a'u rhoi ar waith yn llwyddiannus’17. Felly, mae’n rhoi’r economi werdd mewn safle allweddol wrth i Gymru ymdrechu i feithrin arloesedd a chreu economi lewyrchus sy’n gweithio i bawb.
Gellir diffinio twf gwyrdd fel a ganlyn:
‘Mae a wnelo twf gwyrdd yng Nghymru â meithrin twf economaidd, datblygiad a chynhwysiant cymdeithasol tra'n sicrhau bod yr asedau naturiol yn darparu'r adnoddau a'r gwasanaethau amgylcheddol y mae ein lles yn dibynnu arnynt. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid iddo ysgogi buddsoddi ac arloesi a fydd yn ategu twf parhaus ac yn arwain at gyfleoedd economaidd newydd, ffurfio cyfalaf dynol a meithrin sgiliau, ac ailddosbarthu enillion twf’18.
16 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf 17 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf 18 http://www.cynnalcymru.com/wp-content/uploads/2015/02/Green-Growth-Baseline-Study1.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   23   24   25   26   27