Page 26 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 26
26
Mae’r pedwar dangosydd twf gwyrdd i Gymru fel y’u cynigiwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel a ganlyn;
• Cynhyrchiant amgylcheddol ac adnoddau’r economi wsy'n cynnwys dwysedd nwyon ty gwydr gweithgarwch economaidd, cylchredeg ac adennill adnoddau a pherfformiad ynni a chynaladwyedd y stoc adeiladau.
• Y sylfaen asedau naturiol sy'n cynnwys gweithredu rheolaeth amgylcheddol dda mewn diwydiannau sylfaenol a chyflwr ecosystemau.
• Ansawdd bywyd amgylcheddol sy'n cynnwys hunan-ddirnadaeth o lesiant, peryglon i iechyd a achosir gan lygredd aer a mynediad at ddiwylliant a gwasanaethau.
• Cyfleoedd economaidd ac ymatebion polisi sy'n cynnwys lefelau sgiliau'r gweithlu a chyfranogaeth
y gweithlu; maes o ddiddordeb neilltuol o ystyried diben y cynllun hwn.
Nodir y dangosyddion mesuradwy a awgrymwyd o dan flaenoriaethau economaidd a’r ymatebion polisi yn y tabl isod;
Cyfleoedd economaidd ac ymatebion polisi
Lefel sgiliau’r gweithlu
• Canran absenoliaeth ymysg disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
• Canran y boblogaeth sydd heb gymwysterau
• Canran y bobl 16-64 oed wedi’i haddysgu i NVQ lefel 4 ac uwch
Cyfranogiad yn y gweithlu
• Cyfradd diweithdra pobl 16 -64 oed
• Cyfradd anweithgarwch economaidd pobl 16 – 64 oed • Cyfradd gweithgarwch economaidd pobl 50 oed a hŷn
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hamcanion strategol mewn perthynas â thwf gwyrdd trwy ei dogfen ‘Y busnes o ddod yn Genedl Gynaliadwy.’19
2.11 Y Gymraeg
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y galw am sgiliau Cymraeg yn lleol iawn ac yn dibynnu’n llwyr ar y sector mae busnes penodol yn gweithredu ynddo. Dim ond 44 o’r 262 (17%) o fusnesau a nododd fylchau sgiliau a ddywedodd fod sgiliau Cymraeg yn broblem. I fanylu ar hyn, dywedodd 31 o fusnesau fod bwlch o ran sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a dywedodd 37 fod bwlch o ran sgiliau Cymraeg llafar.
Mae dadansoddiad o’r data’n awgrymu bod y sectorau sy’n crybwyll y problemau hyn yn gyson, at ei gilydd, â chanfyddiadau y llynedd. Roedd y broblem yn fwyaf cyffredin yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac wedyn yn y sector Hamdden a Thwristiaeth. Nododd y sectorau canlynol fylchau ond bach iawn oedd y niferoedd – y sector cyhoeddus, addysg, manwerthu, y trydydd sector ac adeiladu.
19 Y busnes o ddod yn Genedl Gynaliadwy – Llywodraeth Cymru - 2016
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi