Page 28 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 28
28
Y cyd-destun
Bwriedir i’r proffiliau sector canlynol roi crynodeb o brif ganfyddiadau tystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2018.
Casglwyd y dystiolaeth a nodir naill ai trwy arolwg sgiliau electronig neu drwy gyfweliadau dros y ffôn a ddefnyddiai’r un strwythur cwestiynau. Mae’r canfyddiadau o’r dulliau casglu hyn wedi cael eu cadarnhau gan grwpiau clwstwr diwydiannau’r Bartneriaeth.
Bwriedir i’r proffiliau roi crynodeb cynrychiadol o safbwyntiau’r cynrychiolwyr diwydiannau a chyflogwyr yr ymgysylltodd y Bartneriaeth â hwy trwy gydol cyfnod datblygu a chwblhau’r cynllun hwn.
3.1 Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Advanced-Materials-and-Manufacturing-Energy.pdf
Parodrwydd am waith
Dim ond 29% o’r cyflogwyr yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni a ddywedodd fod gweithwyr newydd yn barod am waith a dywedodd 39% nad oeddent yn barod. Y rhesymau mwyaf cyffredin a nodwyd oedd bod y gweithwyr newydd heb y sgiliau rydych chi’n chwilio amdanynt, y cymwysterau rydych chi’n chwilio amdanynt a’r profiad gwaith mae arnoch ei angen.
Heriau o ran sgiliau
Mae heriau o ran sgiliau yn y sector yn dal i fod yn broblem; dywedodd 57% o’r cyflogwyr eu bod yn gweld heriau o ran sgiliau gyda phroblemau mewn perthynas â datrys problemau, sgiliau arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r rôl, darllen a deall cyfarwyddiadau a llythrennedd cyfrifiadurol. Cafodd heriau o ran sgiliau eu hadlewyrchu hefyd yn yr heriau o ran recriwtio i swyddi penodol; dywedodd 58% o fusnesau eu bod yn cael anhawster wrth recriwtio i swyddi penodol, gan gynnwys swyddi peirianwyr, weldwyr, swyddi CAD/swyddfa dylunio ac electro-technegol. Nodwyd hefyd heriau o ran sgiliau yn y dyfodol gan gynnwys technolegau digidol ac awtomatiaeth yn ogystal ag effeithiau gweithlu sy’n heneiddio yn creu galw mawr o ran recriwtio a gwella sgiliau’n fewnol.
Rhwystrau i hyfforddiant
Roedd 57% o’r busnesau a holwyd yn gweld rhwystrau i hyfforddiant; y rhwystrau mwyaf cyffredin oedd
diffyg arian ar gyfer hyfforddiant/hyfforddiant yn ddrud, methu neilltuo amser staff, anhawster wrth ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant a all ddarparu hyfforddiant lle neu pryd rydym ni ei eisiau. Mae hyn yn awgrymu bod potensial i fanteisio’n fwy ar weithgarwch yn y sector.
Blaenoriaeth
Cynyddu nifer y llwybrau dysgu STEM ar bob lefel (e.e. Gradd-brentisiaethau mewn Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Ynni, Gwyddor Deunyddiau; Prentisiaethau Uwch mewn Technegau Gwella Busnes), gan gynnwys gwella sgiliau sylfaenol ac ehangu’r defnydd o brentisiaethau i hybu gyrfaoedd mewn peirianneg a STEM.
3.2 Adeiladu
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Construction-6.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector