Page 30 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 30
30
3.3 Diwydiannau Creadigol
Parodrwydd am waith
Ymatebodd 24 o fusnesau ar ran sector y Diwydiannau Creadigol. O’r rhain mae 42% yn teimlo nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith yn gyffredinol.
Nododd ymatebwyr fod gweithwyr newydd heb y sgiliau, cymwysterau a phrofiad gwaith maent yn eu dymuno. Ar y cyfan, mae hyn yn gyson â thystiolaeth a gasglwyd o sectorau eraill.
Heriau o ran sgiliau
Dywedodd y mwyafrif o'r ymatebwyr (63%) nad ydynt yn wynebu heriau o ran sgiliau. Nododd y rhai sydd yn eu hwynebu broblemau ym meysydd; rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion, galwedigaethau proffesiynol, galwedigaethau crefftau medrus a galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol.
Mae’r bylchau sgiliau a nodwyd amlaf yn cynnwys:
• Sgiliau TG
• Sgiliau arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r swydd
• Sgiliau Cymraeg
• Sgiliau rhifiadol neu ystadegol.
Nododd 38% o’r ymatebwyr eu bod yn cael anhawster wrth recriwtio i swyddi penodol. Roedd y swyddi hyn yn amrywiol ac yn cynnwys technegwyr theatr, gweithredwyr peiriannau, clustogwyr, arweinwyr dawns a gweithwyr marchnata proffesiynol.
Pan ofynnwyd iddynt am y dyfodol, crybwyllwyd yn aml bod hyfforddiant, recriwtio a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn ystyriaethau. Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr nad oeddent yn siw^ r beth i’w ddisgwyl.
Rhwystrau i hyfforddiant
Nododd 75% o’r ymatebwyr rwystrau i hyfforddiant. Y prif rwystr a nodwyd oedd bod hyfforddiant yn ddrud; nid oedd gan lawer yr arian i gynnig hyfforddiant gwerth chweil i’w cyflogeion. At hynny, dywedodd llawer fod diffyg cymwysterau priodol yn y meysydd pwnc a ddymunant neu eu bod yn methu neilltuo amser staff. Dywedodd un ymatebydd yr hoffai weld mwy o hyblygrwydd yn y ddarpariaeth gan nodi bod cyrsiau ar-lein yn ddewis amgen priodol.
Blaenoriaeth
Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion sector y Diwydiannau Creadigol sy’n datblygu ac yn symud yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y darperir yn briodol ar gyfer elfennau digidol arbenigol y sector fel y nodir yn y flaenoriaeth ar gyfer y sector TGCh isod.
3.4 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a TGCh
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Financial-and-Professional-Services-ICT.pdf
Parodrwydd am waith
O gymharu â sectorau eraill, mae llawer iawn mwy o amrywiad yn y ddirnadaeth am barodrwydd gweithwyr newydd am waith yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector