Page 31 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 31
31
I fanylu ar hyn, teimlai 33% fod parodrwydd am waith yn amrywio, teimlai 30% fod gweithwyr newydd yn barod am waith a dywedodd y 34% arall nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith. Gellir gweld patrwm tebyg yn y sector TGCh, lle dywedodd 29% fod hyn yn amrywio, dywedodd yr un ganran fod gweithwyr newydd yn barod am waith a nododd y 42% arall nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith.
Mae dadansoddiad o'r data’n dangos bod gweithwyr newydd heb y sgiliau, profiad gwaith neu gymwysterau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Teimlai llawer fod gweithwyr newydd ag agweddau gwael a heb ysgogiad.
Heriau o ran sgiliau
Nid yw’r mwyafrif o’r ymatebwyr o’r sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn wynebu heriau o ran sgiliau. O’r 41% sydd yn eu hwynebu, mae’r meysydd galwedigaethol lle mae’r problemau hyn yn fwyaf cyffredin yn cynnwys: rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion, galwedigaethau proffesiynol a galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol.
Nododd 56% o’r ymatebwyr oedd yn cynrychioli’r sector TGCh eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau. Mae’r meysydd galwedigaethol lle nodwyd y problemau hyn yn cynnwys; galwedigaethau crefftau medrus, galwedigaethau gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid a swyddi creadigol.
Y bylchau sgiliau a nodwyd amlaf ar draws y ddau sector yw;
• Sgiliau TG uwch neu arbenigol
• Llythrennedd cyfrifiadurol/sgiliau TG sylfaenol
• Gwybodaeth am y cynhyrchion a’r gwasanaethau mae’r sefydliad yn eu cynnig
• Sgiliau neu wybodaeth arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r rôl
Mae’r sector TGCh yn wynebu mwy o anhawster wrth recriwtio i swyddi penodol. Nododd y mwyafrif yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol nad oedd hyn yn broblem iddynt. Mae’r 61% o ymatebwyr o’r sector TGCh yn wynebu anhawster wrth recriwtio ymgeiswyr â chefndir addas ym maes TG. Roedd hyn yn cyd-fynd ag anhawster wrth recriwtio i swyddi gwerthu sy’n dibynnu ar gefndir cadarn ym maes TG.
Cyfrifyddion siartredig, datblygwyr meddalwedd, gweinyddwyr gwasanaethau ariannol ac arbenigwyr ar seiberddiogelwch oedd rhai o’r swyddi a nodwyd gan y rhai sy’n cael anhawster yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.
Yn nhermau heriau yn y dyfodol mae’r ddau sector yn rhagweld mai recriwtio fydd yr ystyriaeth fwyaf arwyddocaol iddynt. Mae hyn yn cael ei waethygu gan ddatblygiad cyflym y sectorau a sicrhau bod eu gweithluoedd â sgiliau priodol i weithredu yn yr amgylcheddau hyn sy’n newid.
Rhwystrau i hyfforddiant
Ar draws y ddau sector nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr nad ydynt yn wynebu rhwystrau i hyfforddiant. O’r 38% sydd yn eu hwynebu, dywedodd y mwyafrif mai diffyg arian ar gyfer hyfforddiant neu fod hyfforddiant yn rhy ddrud oedd y prif rwystr iddynt. Nodwyd hefyd diffyg hyfforddiant/cymwysterau priodol i’w maes hwy.
Blaenoriaeth
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi’n diwallu anghenion cyflogwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i TGCh a darpariaeth ddigidol lle mae angen adlewyrchu cyflymder datblygiadau yn briodol yn y ddarpariaeth.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector