Page 33 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 33
33
Heriau o ran sgiliau
Mae recriwtio i’r sector yn dal i fod yn her sylweddol; dywedodd 67% o’r ymatebwyr eu bod yn cael anhawster wrth recriwtio. Roedd y swyddi cyffredin yr oedd yn anodd recriwtio iddynt yn cynnwys gweithwyr cymorth gofal, nyrsys, staff gofal cartref a staff cegin/glanhau.
Nodwyd bod cadw staff yn broblem yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol; nododd 54% o’r ymatebwyr bod cadw staff yn destun pryder. Mae’r rhesymau dros yr heriau o ran cadw staff yn cynnwys: mae’r cyflogau a gynigir yn isel o gymharu â sefydliadau tebyg, nid yw’r amodau gwaith yn ddeniadol, ac oriau hir/anghymdeithasol. Cafodd yr heriau hyn o ran recriwtio eu hadlewyrchu yn nhrafodaethau’r grw^ p clwstwr ac mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y sector i fynd i’r afael â’r heriau o ran recriwtio ac o ran cadw staff.
Pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn wynebu heriau o ran sgiliau, nododd 58% o’r ymatebwyr eu bod yn eu hwynebu mewn meysydd galwedigaethol oedd yn cynnwys gofal, hamdden a galwedigaethau gwasanaeth eraill, galwedigaethau proffesiynol, rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion. Mae hyn yn pwysleisio’r heriau o ran sgiliau ar bob lefel yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhwystrau i hyfforddiant
Dywedodd 62% o’r ymatebwyr eu bod yn wynebu rhwystrau i hyfforddiant gan nodi ‘diffyg arian ar gyfer hyfforddiant/hyfforddiant yn ddrud, methu neilltuo amser staff ac anhawster wrth ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant a all ddarparu hyfforddiant lle neu pryd mae arnom ei angen.’ Nodwyd hefyd yn y grw^ p clwstwr fod rhai o’r gofynion o ran sgiliau sylfaenol a’r profion yn creu rhwystr i rai gweithwyr newydd yn y gweithlu gofal cymdeithasol.
Blaenoriaeth
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith diwygiedig ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol fod yn gofrestredig; gweithwyr gofal cartref erbyn mis Ebrill 2020; gweithwyr cartrefi gofal erbyn mis Ebrill 2022. Cost cofrestru yw £15 y flwyddyn ar hyn o bryd a bydd yn codi pob blwyddyn i £30 erbyn 2022, a disgwylir i weithwyr dalu hyn eu hunain. Er mwyn cofrestru rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol feddu ar o leiaf Diploma Lefel 2 mewn Gofal Cymdeithasol neu Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan a asesir a’r cymhwyster craidd, a chwblhau’r cymhwyster llawn cyn pen y cyfnod cofrestru cychwynnol. Ar hyn o bryd mae llai na 60% o weithwyr gofal yn meddu ar y cymwysterau gofynnol ac felly nid ydynt yn gymwys i gofrestru ac ni fyddant yn gallu gweithio yn y sector ar ôl 2020. Byddai ansefydlogrwydd enfawr mewn marchnad sydd eisoes yn fregus pe na bai darparwyr yn gallu cyflawni contractau oherwydd na all eu staff gofrestru heb gymwysterau.
Mae ar y sector angen cymorth ar gyfer hyfforddiant staff er mwyn sicrhau cymhwysedd i gofrestru. Byddai ymgyrch wedi’i thargedu i hyfforddi’r gweithwyr trwy raglen wedi’i hariannu’n rhoi hwb i’r sector ac yn diogelu ei ddyfodol er mwyn iddo ateb y galw am ofal a chymorth yn y cartref.
3.7 Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma.
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Leisure-Tourism-and-Retail.pdf
Parodrwydd am waith
Mae’r mwyafrif (65%) o’r busnesau a holwyd yn cael problemau gyda pharodrwydd gweithwyr newydd yn y sector am waith. I fanylu ar hyn, mae 48% yn credu nad oedd gweithwyr newydd yn barod am waith o gwbl a nododd yr 17% arall fod lefel eu parodrwydd am waith yn amrywio. Yn ôl yr ymatebwyr roedd
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector