Page 34 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 34

34
gweithwyr newydd heb y sgiliau a phrofiad gwaith mae ar y diwydiant eu hangen. At hynny, dywedodd llawer fod gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agweddau gwael a heb ysgogiad.
Heriau o ran sgiliau
Dywedodd 48% o’r ymatebwyr eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau. Mae’r heriau hyn yn ymwneud yn bennaf â galwedigaethau gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid, galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, gofalu, hamdden a galwedigaethau gwasanaeth eraill a rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion.
Mae’r bylchau sgiliau a nodwyd yn fwyaf cyffredin yn cynnwys:
• Llythrennedd cyfrifiadurol/sgiliau TG sylfaenol a nodwyd gan 12% o’r ymatebwyr
• Datrys problemau a nodwyd gan 17% o’r ymatebwyr
• Gwybodaeth am y cynhyrchion a gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad a nodwyd gan
14% o’r ymatebwyr
• Sgiliau Cymraeg a nodwyd gan 10% o’r ymatebwyr
Dywedodd 60% o’r cyflogwyr eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio i swyddi penodol; roedd y rhai mae’r galw mwyaf amdanynt yn cynnwys; cogyddion a swyddi arlwyo, swyddi glanhau/cadw ty^ a chynnal a chadw, swyddi gwerthu, rheolwyr a hyfforddwyr.
Pan ofynnwyd iddynt am y dyfodol, nododd y cyflogwyr a holwyd nifer fawr o wahanol heriau y gallant eu rhagweld. I rai, recriwtio a chynllunio ar gyfer olyniaeth oedd eu prif bryder, i eraill roedd dim ond gwneud elw a goroesi fel busnes proffidiol yn ystyriaeth. Mae hyn yn ategu ymhellach yr angen i sicrhau y caiff y sector ei hyrwyddo i’r genhedlaeth iau yn y gobaith o chwalu rhai o’r dirnadaethau negyddol sy’n bodoli ymysg dysgwyr a’r bobl sy’n dylanwadu arnynt. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cyflenwad o dalent yn y rhanbarth a all, ac sydd eisiau, dilyn gyrfa yn y sector. Mae hefyd angen sicrhau y caiff y sector ddigon o gymorth i aros yn gynaliadwy trwy amgylchiadau sy’n newid o hyd, o gofio ei arwyddocâd i’r rhanbarth.
Rhwystrau i hyfforddiant
Nododd 45% o’r ymatebwyr rwystrau i hyfforddiant. Y prif rwystr yw heriau ariannol a’r ffaith bod hyfforddiant yn ddrud a nodwyd gan 19% o’r ymatebwyr. Mae’r rhesymau eraill a nodwyd yn cynnwys: methu neilltuo amser staff, diffyg darpariaeth a diffyg hyfforddiant/cymwysterau priodol yn y meysydd pwnc mae arnom eu hangen.
Blaenoriaeth
Mae’r ddirnadaeth gamsyniol o’r sector sydd gan ddysgwyr a dylanwadwyr yn broblem allweddol i’r sector ac yn cael effaith ddifrifol ar gyfraddau recriwtio a chadw. Dylid datblygu a darparu ymyriadau wedi’u targedu mewn ysgolion i ddileu’r cysylltiadau negyddol sydd ynghlwm wrth y sector. At hynny, dylai darparwyr a’r diwydiant gydweithio i ddatblygu hyfforddiant addas i’r diben sy’n ddyheadol ac yn cynrychioli gwir natur gweithgareddau helaeth y sector.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


































































































   32   33   34   35   36