Page 32 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 32
32
3.5 Bwyd a Ffermio
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Food-and-Farming-5.pdf
Parodrwydd am waith
Mae parodrwydd am waith yn dal i fod yn broblem yn y sector; dywedodd 51% o’r ymatebwyr nad oedd gweithwyr newydd yn barod am waith, neu fod parodrwydd am waith yn amrywio ymysg gweithwyr newydd. Y rhesymau mwyaf cyffredin oedd bod gweithwyr newydd heb y sgiliau rydych chi’n chwilio amdanynt, y profiad gwaith mae arnoch ei angen a bod gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agweddau gwael a heb ysgogiad. Cafodd hyn ei atgyfnerthu trwy drafodaeth yn y grw^ p clwstwr a bwysleisiodd bryderon ynghylch deall y rolau sy’n ofynnol ym meysydd prosesu a chynhyrchu bwyd.
Heriau o ran sgiliau
Pan ofynnwyd iddynt, nododd 48% o’r ymatebwyr eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau. Roedd yr heriau mwyaf cyffredin ym meysydd galwedigaethol ‘galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiedig, rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion a galwedigaethau crefftau medrus’. Cafodd hyn ei atgyfnerthu yn nhrafodaethau’r grw^ p clwstwr a bwysleisiodd yr angen am sgiliau priodol, yn arbennig yn y sector cynhyrchu bwyd.
At ei gilydd ni farnwyd bod cadw gweithwyr yn broblem sylweddol i’r mwyafrif o’r busnesau yn y sector bwyd a ffermio. Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch effaith bosibl Brexit ar staff o’r Undeb Ewropeaidd yn y grw^ p clwstwr ond erys yr effaith yn anhysbys.
Roedd yr heriau o ran sgiliau’n cael eu cynyddu oherwydd natur dymhorol rhai swyddi yn y sector ffermio a’r sector prosesu bwyd. Ar hyn o bryd mae cyfran sylweddol o'r llafur hwn yn cael ei darparu trwy asiantaethau a recriwtio o’r Undeb Ewropeaidd. Roedd pryderon y gallai heriau o ran sgiliau gynyddu o ganlyniad i Brexit.
Rhwystrau i hyfforddiant
Dywedodd 56% o’r busnesau yn y sector eu bod yn gweld rhwystrau i hyfforddiant; y rhwystrau mwyaf cyffredin oedd: methu neilltuo amser staff, diffyg arian ar gyfer hyfforddiant a diffyg hyfforddiant/cymwysterau priodol yn y meysydd pwnc mae arnom eu hangen.
Blaenoriaeth y Grŵp
Sicrhau priodoldeb y cymwysterau yn y sector, gan gynnwys fframweithiau prentisiaeth, er mwyn iddynt fod yn addas i’r diben o ran y cynnwys a’r mecanweithiau cyflenwi.
3.6 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma.:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Health-and-Social-Care-2.pdf
Parodrwydd am waith
Amrywiol oedd parodrwydd gweithwyr newydd am waith; dywedodd 49% mae’n amrywio pan ofynnwyd iddynt am barodrwydd am waith, ac roedd yr ymatebion eraill wedi’u rhannu’n eithaf agos rhwng ‘ydyn’ a ‘nac ydyn’. Y rhesymau mwyaf cyffredin pam nad oedd unigolion yn barod am waith oedd bod were gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agweddau gwael a heb ysgogiad, y cymwysterau rydych chi’n chwilio amdanynt a’r sgiliau rydych chi’n chwilio amdanynt. Roedd tystiolaeth o’r grwpiau clwstwr yn pwysleisio mai’r blaenoriaethau yn y sector gofal yw am unigolion â’r â’r sgiliau cymdeithasol a rhyngbersonol priodol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector