Page 35 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 35

3.8 Canolbarth Cymru
Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad yma:
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Mid-Wales-Analysis.pdf
Parodrwydd am waith
Mae 60% yn teimlo nad yw gweithwyr newydd yn eu sector yn gwbl barod am waith. I fanylu ar hyn, teimlai 35% nad oedd gweithwyr newydd yn gyffredinol yn barod am waith a nododd y 25% arall fod y lefel parodrwydd am waith yn amrywio. Yn ôl yr ymatebwyr, roedd gweithwyr newydd heb y sgiliau a phrofiad gwaith mae eu hangen ar gyflogwyr. At hynny, dywedodd llawer fod gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agweddau gwael a heb ysgogiad.
Heriau o ran sgiliau
Mae bodolaeth bylchau sgiliau’n broblem i ranbarth Canolbarth Cymru. Mae tystiolaeth y Bartneriaeth yn dangos bod 46% o’r busnesau a holwyd yn wynebu heriau o ran sgiliau. I fanylu ar hyn;
• Nododd 19% fod llythrennedd cyfrifiadurol a sgiliau TG sylfaenol yn fwlch a nododd y 7% arall fod sgiliau TG uwch neu arbenigol yn fwlch iddynt hwy.
• Dywedodd 18% eu bod yn wynebu bylchau sgiliau oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â rhifedd
• Roedd llythrennedd yn broblem i 60% ac roedd y bylchau’n cynnwys; darllen a deall cyfarwyddiadau (19%), datrys problemau (28%) ac ysgrifennu cyfarwyddiadau, canllawiau, llawlyfrau neu adroddiadau
(13%).
Nododd 47% eu bod yn cael anhawster wrth recriwtio i swyddi penodol; roedd y rhai mae’r galw mwyaf amdanynt yn cynnwys; technegwyr CAD, cogyddion/swyddi arlwyo, gyrwyr LGV/HGV, peirianwyr h.y. meddalwedd, mecanyddol, dylunio, swyddi TG, nyrsys, plymwyr a thrydanwyr.
Pan ofynnwyd am y dyfodol roedd pryderon busnesau’n amrywio, ond mae’r rhai cyffredin a nodwyd yn cynnwys problemau gyda recriwtio a chadw staff, Brexit, arian ar gyfer hyfforddiant, tyfu ac aros yn broffidiol, cynllunio ar gyfer olyniaeth a chael gafael ar staff medrus a chymwysedig.
Rhwystrau i hyfforddiant
Nododd 46% o’r cyflogwyr a holwyd eu bod yn wynebu rhwystrau i hyfforddiant. Mae’r rhwystrau a nodwyd yn cynnwys y ffaith bod hyfforddiant yn ddrud, methu neilltuo amser staff a diffyg hyfforddiant priodol. At hynny, nododd 66% o’r cyflogwyr a holwyd nad ydynt yn cyflogi prentisiaid, nododd 25% o’r rhain fod diffyg fframweithiau priodol yn ffactor cyfrannol.
Blaenoriaeth
Sicrhau bod yr ymyriadau sydd wedi’u datblygu a’r argymhellion sydd wedi’u gwneud gan y Bartneriaeth wedi’u halinio ag anghenion rhanbarth y Canolbarth yn y dyfodol. Bydd y Cynllun Datblygiad Economaidd a Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru yn llywio hyn.
35
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


































































































   33   34   35   36   37