Page 29 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 29
29
Parodrwydd am waith
Dywedodd 66% o’r busnesau a holwyd fod parodrwydd gweithwyr newydd am waith yn y sector Adeiladu yn broblem. Nododd 44% o’r rhain nad oedd gweithwyr newydd yn barod am waith a dywedodd y 22% arall bod parodrwydd am waith yn amrywio ymysg gweithwyr newydd.
Mae dadansoddiad o’r data’n dangos bod gweithwyr newydd heb y sgiliau, profiad gwaith neu gymwysterau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Roedd llawer yn teimlo bod gweithwyr newydd ag agweddau gwael a heb ysgogiad.
Heriau o ran sgiliau
Mae heriau o ran sgiliau’n dal i fod yn gyffredin yn y sector; nododd 56% o'r ymatebwyr fod hyn yn broblem iddynt. Nodwyd heriau o ran sgiliau ar draws nifer o feysydd, ond yn bennaf mewn; galwedigaethau â chrefftau medrus, galwedigaethau proffesiynol, galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiedig a gweithredwyr prosesau, peirianwaith a pheiriannau.
Mae’r bylchau sgiliau a nodwyd amlaf yn cynnwys:
• Dywedodd 32% o’r ymatebwyr fod datrys problemau yn fwlch,
• Nododd 36% sgiliau TG,
• Nododd 46% sgiliau arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r swydd,
• Nododd 20% ddeheurwydd llaw.
Mae cyflogwyr yn teimlo’n gryf y gellid mynd i’r afael â llawer o’r heriau hyn o ran sgiliau trwy fwy o arlwy dysgu yn y gweithle, dysgu ymarferol neu brofiad gwaith ar safle byw. Barn bresennol llawer o gyflogwyr yw bod y cyrsiau addysg bellach amser llawn presennol heb y profiad ymarferol hwnnw o amgylchedd gweithio, sy’n andwyol i ddysgwyr ac i gyflogwyr.
Dywedodd 59% o’r cyflogwyr eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio i swyddi penodol; mae’r rhai mae’r galw mwyaf amdanynt yn cynnwys; trydanwyr, staff pensaernïol, technegwyr CAD, peirianwyr strwythurol a sifil siartredig a gwneuthurwyr/weldwyr dur.
Pan ofynnwyd iddynt am y dyfodol, dywedodd llawer o’r cyflogwyr eu bod yn rhagweld mai gwahanol broblemau o ran recriwtio a chadw staff fydd yr heriau mwyaf iddynt. Mae hyn yn ategu’r angen i sicrhau y caiff y sector ei hyrwyddo i’r genhedlaeth iau yn y gobaith o chwalu rhai o’r dirnadaethau negyddol sy’n bodoli ymysg dysgwyr a’r bobl sy’n dylanwadu arnynt.
Rhwystrau i hyfforddiant
Nododd 56% o’r ymatebwyr rwystrau i hyfforddiant. Y prif rwystr yw heriau ariannol a’r ffaith bod hyfforddiant yn ddrud a nodwyd gan 31% o’r ymatebwyr. Mae’r rhesymau ychwanegol a nodwyd yn cynnwys; methu neilltuo amser staff, diffyg darpariaeth a diffyg hyfforddiant/cymwysterau priodol yn y meysydd pwnc mae arnom eu hangen.
Blaenoriaeth
Mae angen i ddarparwyr a diwydiannau fel ei gilydd fod yn ymatebol i’r newidiadau yn anghenion y sector adeiladu. Mae hyn yn golygu meithrin perthnasoedd agosach rhwng diwydiannau, ysgolion a darparwyr er mwyn diwallu anghenion o ran mwy o brofiad gwaith a mentora i ddysgwyr, aml-sgilio unigolion trwy flwyddyn sylfaen (fydd yn cynnwys elfennau o’r holl grefftau allweddol) a manteisio’n llawn ar Brentisiaethau fel llwybr dysgu hyfyw.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector