Page 24 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 24
24
2.8 Addysg Uwch
Mae sector addysg uwch rhanbarthol sy’n gystadleuol ar lefel fyd-eang yn hanfodol i lwyddiant y rhanbarth ac i gefnogi datblygiad economi sgiliau uchel. Mae hyn yn cynnwys denu myfyrwyr ac ymchwilwyr o’r tu allan i’r rhanbarth yn ogystal â chefnogi’r economi a busnesau lleol. Mae 37,600 o gofrestriadau a 16,845 o gofrestriadau blwyddyn gyntaf yn sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach y rhanbarth (heb gynnwys cofrestriadau yn y Brifysgol Agored).
Mae tystiolaeth oddi wrth gyflogwyr yn awgrymu y byddai’n well ganddynt gael mwy o hyblygrwydd yn y ddarpariaeth addysg uwch, yn arbennig mwy o ddarpariaeth ran amser a mwy o gyfleoedd ar-lein ac e-ddysgu.
Mynediad at addysg uwch mewn addysg bellach
Mae addysg uwch hefyd yn cael ei darparu yn yr amgylchedd addysg bellach ac mae grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Bartneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg (CUSP) wedi gweithio i ddatblygu meysydd darpariaeth newydd. Mae’r ymagwedd hon yn cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen i addysg uwch yn eu sefydliadau addysg bellach presennol a hefyd yn cynorthwyo â darparu mwy o argaeledd daearyddol i ddarpariaeth addysg uwch. Mae’r Bartneriaeth yn cefnogi’r gwaith hwn gan ei fod yn darparu llwybrau pwysig i ddysgwyr yn y rhanbarth symud ymlaen.
Gradd-brentisiaethau
Mae’r Bartneriaeth yn cefnogi’n llawn y gwaith hyd yma i ddatblygu gradd-brentisiaethau ym meysydd peilot peirianneg a TGCh. Fodd bynnag, mae yna gyfleoedd i ehangu’n sylweddol y defnydd posibl o radd-brentisiaethau i sectorau eraill, yn ogystal ag ehangu’r ddarpariaeth beilot i gynnwys amrywiaeth fwy o swyddi a mwy o arbenigo.
Mae’r sectorau ychwanegol a nodwyd fel meysydd posibl yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol ym maes adeiladu fel pensaernïaeth a rheoli prosiectau, a chyfleoedd yn y sector proffesiynol gan gynnwys swyddi gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol lle caiff profiad ymarferol yn y gweithle ei werthfawrogi.
Mae hefyd potensial i ddatblygu model rhannu gradd-brentisiaethau ar draws cyflogwyr rhanbarthol lle bo’n berthnasol yn dilyn y modelau rhannu prentisiaethau llwyddiannus sydd wedi’u datblygu hyd yma. Yn benodol mae cyfleoedd i ymateb i ofynion Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r newidiadau trawsnewidiol a allai ddigwydd o ganlyniad.
2.9 Tueddiadau galwedigaethol
Nododd llawer o gyflogwyr bod diffyg darpariaeth addas (18%) neu fframweithiau addas (19%) yn rhwystr i hyfforddiant neu’n rheswm dros beidio â recriwtio prentisiaid. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol adlewyrchu’r farchnad lafur amrywiol gymaint ag sy’n bosibl a chefnogi gweithgarwch addas.
Digidol ac awtomatiaeth
Mae ymchwil oddi wrth asiantaethau allanol fel MGI a PWC a’r Centre for Cities yn awgrymu y bydd awtomatiaeth a digidol yn effeithio ar y rhan fwyaf o swyddi, er enghraifft nodwyd bod 23.2% o swyddi yn Abertawe12 yn ‘debygol’ o grebachu oherwydd newid technolegol.
Y swyddi mae awtomatiaeth yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt ac sy’n debygol o leihau o ganlyniad yn cynnwys y rheiny mewn gwaith corfforol rhagweladwy, gwaith corfforol anrhagweladwy a pheryglus a gwaith cymorth swyddfa, a hefyd rhai swyddi ym maes gwasanaethau cwsmeriaid13.
12 http://www.centreforcities.org/wp-content/uploads/2018/01/18-01-12-Final-Full-Cities-Outlook-2018.pdf
13 https://www.mckinsey.com/mgi/overview/2017-in-review/automation-and-the-future-of-work/jobs-lost-jobs-gained-work force-transitions-in-a-time-of-automation
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi