Page 21 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 21

21
Felly ar sail y canfyddiadau o astudiaethau o’r fath a chanfyddiadau gwaith y Bartneriaeth wrth ymgynghori â dysgwyr, mae cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant yn allweddol. Mae hwn yn rhywbeth mae’r Bartneriaeth yn teimlo’n angerddol yn ei gylch fel sy’n amlwg o’r nifer o argymhellion a wnaethpwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn benodol ynghylch cyngor a chyfarwyddyd ar yrfaoedd.
Mae’r Bartneriaeth yn ymgysylltu â dysgwyr yn rheolaidd er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y rhanbarth. Mae nifer o adnoddau wedi cael eu datblygu i gynorthwyo â hyn, gan gynnwys;
• Hoelio Sylw ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru (fideo a phoster),
• Graffigau Gwybodaeth Sector,
• Prentisiaethau ‘ar gipolwg’.
Caiff yr adnoddau hyn eu cyflwyno trwy gysylltiadau uniongyrchol â’r ysgolion, trwy gydgysylltwyr 14-19 a thrwy fynd i’r nifer fawr o ffeiriau gyrfaoedd a gynhelir ar draws y rhanbarth.
2.6 Cyflogadwyedd
Mae’r Bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol i gynorthwyo â’r gwaith o weithredu Cymru’n Gweithio trwy’r Grŵp Cyflogadwyedd Rhanbarthol. Mae’r grw^ p hwn yn darparu fforwm i brosiectau cyflogadwyedd rhanbarthol sy’n bodoli eisoes gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ‘Cymru’n Gweithio’ a nodi rhwystrau mae cleientiaid yn eu hwynebu a chyfleu anghenion cyflogwyr o ran sgiliau.
Mae’r sgiliau cyflogadwyedd canlynol wedi cael eu nodi trwy ddefnyddio’r dystiolaeth oddi wrth gyflogwyr gan gynnwys trwy arolwg y Bartneriaeth a grwpiau clwstwr yn ogystal â gwaith ymgysylltu â’r Grw^ p Cyflogadwyedd Rhanbarthol.
Sgiliau cymdeithasol a ‘meddal’
Nododd llawer o ymatebwyr bod parodrwydd am waith yn broblem o ran recriwtio ar draws nifer fawr o sectorau. Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi eu rhesymau pam nad oedd gweithwyr newydd yn barod am waith. Dim ond 38% o’r busnesau a holwyd oedd yn teimlo bod gweithwyr newydd yn eu sector yn barod am waith. Y prif reswm a nodwyd am ddiffyg parodrwydd am waith oedd bod gweithwyr newydd heb ‘y sgiliau rydych chi’n chwilio amdanynt’ a bod y ‘gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agwedd wael a heb ysgogiad’.
Dywedodd llawer o fusnesau fod gweithwyr newydd heb nifer o sgiliau cymdeithasol, oedd yn effeithio ar eu gallu i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid. Roedd hyn yn cynnwys cyfathrebu, fel wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, a’r gallu i ddeall cyfarwyddiadau a thasgau oddi wrth reolwyr. Roedd hefyd pryderon ynghylch agweddau ac ysgogiad gwael gweithwyr newydd, gan gynnwys problemau fel bod ar amser ac ati. Mae hyn hefyd wedi cael ei nodi gan ddarparwyr cyflogadwyedd trwy’r grw^ p cyflogadwyedd sydd wedi nodi anghenion sylweddol o ran hyfforddiant ‘sgiliau meddal’ i gleientiaid ar ben hyfforddiant ‘penodol i’r swydd’, gydag angen am fentora a chymorth dwys cyn y gall unigolion wneud cynnydd.
Trwy’r arolwg mae cyflogwyr wedi nodi parodrwydd i hyfforddi unigolion sy’n dangos agwedd briodol a pharodrwydd i ddysgu a datblygu a byddant yn buddsoddi mewn datblygu unigolion.
Llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol
Mae sgiliau sylfaenol yn broblem i lawer o gyflogwyr gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, sy’n dal i fod ymysg y rhwystrau mwyaf cyffredin i gyflogaeth. Nodwyd bod y rhain yn rhwystrau i fynediad i brentisiaethau mewn rhai sectorau fel gofal cymdeithasol lle mae llythrennedd a rhifedd yn ofynnol fel rhan o’r brentisiaeth.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


































































































   19   20   21   22   23