Page 17 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 17
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Ymyriad Sgiliau a Thalent yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau digidol i economi’r dyfodol a byddant yn nodi’r sgiliau a’r ddarpariaeth y bydd eu hangen yn y dyfodol i gefnogi’r trawsnewid economaidd. Bydd y Bartneriaeth hefyd yn cydweithio â ‘Chymru’n Gweithio’ i ganfod y sgiliau digidol mae eu hangen i gynorthwyo unigolion i gael cyflogaeth gynaliadwy ac i leddfu unrhyw ganlyniadau anfwriadol a ddaw yn sgil trawsnewid digidol.
2.2.3 Natur wledig
Natur wledig a’r economi wledig
Mae’r economi wledig yn y De-orllewin a’r Canolbarth o bwys sylweddol ac yn cynnwys ardaloedd helaeth yng ngogledd a gorllewin y rhanbarth. Mae’n wynebu amrywiaeth fawr o heriau sy’n unigryw i gefn gwlad. Mae’r rhain yn cynnwys y problemau a nodir isod;
a) Cynhyrchiant sy’n lleihau
Mae’r cynhyrchiant (fel y’i mesurir gan Werth Ychwanegol Gros) yn yr ardaloedd sy’n wledig yn bennaf yn sylweddol is na chynhyrchiant y Deyrnas Unedig a chynhyrchiant ardaloedd mwy trefol yn y rhanbarth. Mae hon yn duedd sydd i’w gweld ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhannol oherwydd natur y busnesau yn y gwahanol ardaloedd; mae mwy o ddiwydiannau Gwerth Ychwanegol Gros uchel fel gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn yr ardaloedd mwy trefol. Un ffactor ychwanegol yw natur cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig, gyda mwy o bwyslais ar waith rhan amser a hunangyflogaeth, yn aml yn gysylltiedig â busnesau ffordd o fyw.
‘Self-employment, part-time working and seasonal employment are more prevalent in rural labour areas. Self-employment and part-time working can be a positive lifestyle choice or a response to a lack of employment opportunities.’4
Mae’r rhaniad hwn o ran cynhyrchiant rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn arwyddocaol oherwydd ei fod yn creu nifer o heriau cysylltiedig â sgiliau, yn ymwneud yn arbennig ag argaeledd, recriwtio a chadw unigolion â sgiliau priodol.
b) Heriau demograffig
Yn y rhanbarth mae nifer sylweddol o heriau demograffig ac mae ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod â phroblemau o ran poblogaeth sy’n heneiddio. Mae hyn yn cynnwys cyfran fwy o bobl hy^ n na 65 oed na’r cyfartaleddau trefol, sy’n effeithio ar y galw am wasanaethau lleol yn ogystal â chyfran y preswylwyr oedran gweithio a all ffurfio’r gweithlu. Mae’r anghydbwysedd demograffig hwn yn creu heriau sylweddol o ran creu mas critigol i ddarparu ymyriadau mewn modd economaidd hyfyw a hefyd yr angen i ail-sgilio unigolion hy^n.
c) Effeithiau llafur mudol ar yr economi wledig
Mae’r economi wledig yn cynnwys nifer o sectorau lle mae dibyniaeth weddol fawr ar hyn o bryd ar ddefnyddio llafur mudol, yn arbennig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r sectorau hyn yn cynnwys cynhyrchu a phrosesu bwyd, lletygarwch a thwristiaeth a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
17
4 Employability and Skills in Rural Scotland 2012 – Scottish Government Employability Learning Network
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi