Page 15 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 15
2.2 Blaenoriaethau trawsbynciol
Mae nifer o flaenoriaethau trawsbynciol sy’n treiddio trwy bob sector sy’n gweithredu yn y rhanbarth, y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth. Fe’u nodir isod;
2.2.1 Methiant y farchnad lafur
Ceir methiant y farchnad lafur pan fo elfennau cyflenwad a galw marchnad lafur yn methu ag arwain at effeithlonrwydd economaidd llafur, neu pan na fônt yn sicrhau canlyniad effeithlon a/neu deg o safbwynt y gymdeithas.
Mae’r rhesymau a ddyfynnir amlaf am fethiant y farchnad lafur yn cynnwys;
• Bodolaeth bylchau sgiliau,
• Ansymudedd llafur,
• Anghydraddoldeb.
Gellid dadlau bod nifer o’r ffactorau a grybwyllwyd uchod yn gyffredin yng Nghymru, a allai gyfuno i achosi i adferiad economaidd rhanbarthol waethygu neu aros yn ei unfan ac yn y pen draw ei atal rhag gwella.
Bodolaeth bylchau sgiliau
Mae bodolaeth bylchau sgiliau’n broblem i’r rhanbarth. Mae tystiolaeth y Bartneriaeth yn dangos bod 51% o’r busnesau a holwyd yn wynebu heriau o ran sgiliau. At hynny, mae 62% yn teimlo nad yw gweithwyr newydd yn eu sector yn gwbl barod am waith. Mae’r problemau hyn yn achosi heriau sylweddol i fusnesau trwy leihau cynhyrchiant, cynyddu costau hyfforddi a llesteirio twf a datblygiad y busnes hwnnw. Wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith andwyol ar yr economi ehangach.
Ansymudedd llafur
Mae ansymudedd llafur yn ymwneud â diffyg symudiad llafur i le mae’r galw mwyaf amdano. Nododd 52% o’r busnesau a holwyd eu bod yn cael anhawster wrth recriwtio i swyddi penodol. Mae angen i’r rhanbarth gael ei hyrwyddo ymhellach fel lle deniadol i fyw, gweithio a buddsoddi, gyda phrisiau tai is ar gyfartaledd na chenhedloedd cyfagos ac ansawdd bywyd da.
At hynny, bu newid sylweddol ym mhroffil marchnad lafur Cymru yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ddirywiad y sector gweithgynhyrchu a thwf diwydiannau gwasanaeth. Mae angen gwneud mwy o waith yn arbennig gyda gweithwyr hy^n i ddeall ble y gall fod cyfleoedd i gynyddu symudedd diwydiannol. Mae llawer o sgiliau’n drosglwyddadwy a heb fod yn benodol i sectorau, felly dylid rhoi cymorth i ddeall yn well y cydraddoldeb sgiliau rhwng rhai sectorau. Gallai hyn roi hwb sylweddol i’r economi a sicrhau bod mwy o unigolion yn aros mewn cyflogaeth ystyrlon hirdymor.
15
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi