Page 38 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 38

38
4.1 Dinas Ranbarth Bae Abertawe
4.1.1 Bargen Ddinesig Bae Abertawel20
Ymyriad Sgiliau a Thalent
Dan arweinyddiaeth y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, bydd yr Ymyriad Sgiliau a Thalent yn cydweithio â phrosiectau’r Fargen Ddinesig i ganfod y sgiliau penodol mae eu hangen i gefnogi’r rhanbarth. Gan weithio gyda darparwyr hyfforddiant yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, bydd y prosiect yn datblygu a darparu cyrsiau a phrentisiaethau, ac yn ymestyn y ddarpariaeth israddedig / ôl-raddedig yn ogystal ag ymgysylltu ag ysgolion er mwyn sicrhau y gall pobl leol fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lleol.
Beth fydd yr Ymyriad Sgiliau a Thalent yn ei wneud?
• Sicrhau bod gan y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol y sgiliau angenrheidiol i gyflawni cynigion y Fargen Ddinesig.
• Ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc i gynnig cyngor gyrfaoedd cynrychiadol, gan sicrhau bod ganddynt wybodaeth ddigonol ac y gallant fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd mae’r cynnig yn eu darparu.
Yr Egin
Bydd prosiect ‘Yr Egin’ yn sefydlu hyb creadigol, digidol a chyfryngol newydd ar gampws Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Hwn fydd pencadlys S4C a bydd yn darparu lleoedd cychwyn busnes a datblygu ar gyfer cwmnïau creadigol a digidol. Trwy fanteisio ar gynigion seilwaith newydd y We-Arfordir, bydd ‘Yr Egin’ yn creu newid mawr a chadarnhaol yn economi greadigol a digidol Cymru.
Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant
Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn ddatblygiad ffisegol yn Llanelli. Bydd y pentref yn cynnwys:
• Sefydliad gwyddorau bywyd sy’n darparu lle ar gyfer ymchwil a datblygu.
• Hyb llesiant fydd yn cynnwys canolfan hamdden, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, cyfleoedd
hamdden a gweithgareddau hybu llesiant.
• Amrywiaeth o fflatiau a thai o ansawdd da ar gael ar y farchnad agored yn ogystal ag unedau byw â chymorth,
cartref gofal a thai wedi’u neilltuo i bobl â nam gwybyddol neu sy’n cael gwasanaethau adsefydlu meddygol.
• Canolfan gwyddorau bywyd a llesiant lle bydd amrywiaeth o wasanaethau llesiant gan y sectorau iechyd, cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector ar gael mewn un man. Bydd y ganolfan hefyd yn darparu cyfleoedd
hyfforddi a fydd yn cael eu datblygu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau.
• Gwesty moethus sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymlacio er mwyn gwella iechyd.
Ardaloedd Digidol Canol Dinas a Glannau Abertawe
Bydd prosiect Ardaloedd Digidol Canol Dinas a Glannau Abertawe yn creu Ardal Fusnes newydd yng nghanol y ddinas a fydd yn darparu lleoedd cyd-leoli a chymorth i fusnesau bach a rhai sy’n cychwyn ochr yn ochr â mentrau byd-eang. Bydd y prosiect yn cynnwys:
• Pentref digidol a chwarter technoleg.
• Sgwâr ac arena digidol a fydd yn darparu cyfleusterau cynadledda a lleoliad digwyddiadau mawr ar gyfer
diwydiannau technoleg a’r prifysgolion.
• Pentref Bocsys a Rhodfan Arloesi sy’n creu lleoedd deori a mannau cydweithio ar gyfer busnesau bach a
rhai sy’n cychwyn.
Campysau Gwyddorau Bywyd a Llesiant
Bydd y prosiect yn cynnwys campws newydd yn Ysbyty Treforys ac estyniad i gampws presennol Ysbyty Singleton. Bydd y campysau hyn yn dwyn ynghyd arbenigedd o feysydd ymchwil, busnes a diwydiannau iechyd er mwyn edrych ar ddatblygiadau blaenllaw ym meysydd ymchwil clinigol a thechnolegau gofal iechyd.
20 http://www.swanseabaycitydeal.wales/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Dyheadol a Seilwaith Allweddol


































































































   36   37   38   39   40