Page 40 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 40

40
Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)21
Sefydlwyd y Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd i gefnogi dull gweithio rhanbarthol cydgysylltiedig o gyflawni newid ystyrlon a gwella iechyd, cyfoeth a llesiant de-orllewin Cymru. Mae’n gydweithrediad rhwng byrddau iechyd GIG Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe, ac mae’n cefnogi amrywiaeth o weithgareddau prosiect yn y pedwar maes allweddol sef y gweithlu, addysg a hyfforddiant, iechyd a llesiant, trawsnewid gwasanaethau ac ymchwil, menter ac arloesedd.
4.2 Tyfu Canolbarth Cymru
Bargen Tyfu Canolbarth Cymru
Ym mis Tachwedd 2017 argymhellodd adroddiad o’r enw ‘Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru’, a baratowyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Fargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru. Yn y Gyllideb Hydref ganlynol, ymrwymodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddechrau trafodaethau tuag at fwrw ymlaen â hyn. Gellir disgwyl ei gyflwyno, o bosibl, yn 2019.
Beacon+22
Mae Canolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, sydd wedi ennill gwobrau, o dan arweinyddiaeth Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Phrifysgolion Abertawe a Bangor, yn gweithio ym maes trawsnewid biomas yn gynhyrchion bio. Mae BEACON yn helpu busnesau yng Nghymru i ddatblygu ffyrdd newydd o drosi porthiant, fel rhygwellt a cheirch, a llifoedd gwastraff yn gynhyrchion sydd â chymwysiadau yn y diwydiannau fferyllol, cemegau, tanwydd a chosmetig.
Helix23
Menter strategol Cymru gyfan yw prosiect HELIX sy’n cael ei gyflawni gan y tri phartner sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru, gyda thimau a chyfleusterau penodedig yn:
• Y Ganolfan Dechnoleg Bwyd, Grw^ p Llandrillo Menai (Gogledd Cymru),
• Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion (Canolbarth Cymru) a
• Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (De Cymru)
Bydd y fenter hon yn datblygu ac yn cyflawni gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth academaidd ac ymarferol gan ganolbwyntio ar arloesedd bwyd, effeithlonrwydd bwyd a strategaeth bwyd er mwyn gwella cynhyrchiant a lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.
Bydd prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, tueddiadau a gwastraff o bob rhan o’r byd ac yn trosglwyddo’r wybodaeth i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd ar draws Cymru.
Campws Arloesi a Menter Aberystwyth24
Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn darparu cyfleusterau all arwain y byd a’r arbenigedd i greu datrysiadau sy’n canolbwyntio ar y farchnad i’r diwydiannau amaeth-dechnegol, bwyd a diod a biotechnoleg ddiwydiannol.
Ar y campws bydd sawl nodwedd cydategol gan gynnwys canolfan gwyddoniaeth ddadansoddol; canolfan fioburo; canolfan Bwydydd y Dyfodol, biobanc hadau a chyfleuster prosesu, a man hyb a fydd yn hwyluso prosiectau ymchwil cydweithredol rhwng y Brifysgol a’r sector preifat yn y bio-economi.
Mae’r campws, a fydd yn costio oddeutu £35 miliwn i’w adeiladu, yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol. Bydd yn ased allweddol i sectorau blaenoriaethol y rhanbarth sef Bwyd a Ffermio a Gwyddorau Bywyd.
21 http://www.arch.wales/
22 http://beaconwales.org/
23 https://gov.wales/newsroom/environmentandcountryside/2017/170322-21-million-food-innovation-project-set-to-safe
guard-thousands-of-welsh-jobs/?lang=en 24 https://www.aberinnovation.com/
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Dyheadol a Seilwaith Allweddol


































































































   38   39   40   41   42